Astudiaeth dyn yw
Anthropoleg
. Daw'r gair o'r iaith Roeg:
ænθr??p?l?d?i
, (
anthr?pos
), sef 'dyn' (Sa:human) a -λογ?α, (logia), sef 'astudiaeth' ac a fathwyd gan Francois Peron pan ddaeth i gysylltiad gyda brodorion Tasmania.
[1]
Mae pedair adran i'r wyddoniaeth:
anthropoleg diwylliannol
,
anthropoleg biolegol
,
anthropoleg ieithyddol
, a weithiau cynhwysir
archaeoleg
. Anthropoleg diwylliannol yw'r astudiaeth o ddiwylliant cymdeithasol cyfoes, anthropoleg biolegol yw'r astudiaeth o esblygiad dyn, anthropoleg ieithyddol yw hanes a datblygiad ieithoedd, ac
archaeoleg
sef olion materol dyn. Mae'r mwyafrif o'r anthropolegwyr yn cytuno taw dynion yw'r unig rywogaeth i gael diwylliant, tra bod rhai anthropolegwyr yn dweud bod diwylliant elfennol gyda epaod eraill fel tsimpansiaid.
- ↑
Tim Flannery, (1994)
The Future Eaters: An ecological history of the Australasian lands and people
Chatswood: New South Wales
ISBN 0802139434