Amnest Rhyngwladol
|
Enghraifft o'r canlynol
| sefydliad anllywodraethol,
sefydliad di-elw
|
---|
Dechrau/Sefydlu
| 28 Mai 1961
|
---|
Lleoliad yr archif
| International Institute of Social History
|
---|
Pennaeth y sefydliad
| Secretary-General of Amnesty International
|
---|
Sylfaenydd
| Peter Benenson
|
---|
Aelod o'r canlynol
| Campaign to Stop Killer Robots
|
---|
Isgwmni/au
| Amnesty International Ireland, Amnesty International France, Amnesty International Brazil
|
---|
Pencadlys
| Llundain
|
---|
Enw brodorol
| Amnesty International
|
---|
Gwefan
| https://www.amnesty.org
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Carfan bwyso
annibynnol byd-eang yw
Amnest Rhyngwladol
(a elwir yn gyffredin yn
Amnest
) sydd yn ymgyrchu dros ryddhad pob
carcharor cydwybod
(sef pobl a garcharir neu gam-drinir oherwydd eu credoau
gwleidyddol
neu
grefyddol
: gweler hefyd
carcharor gwleidyddol
). Sefydlodd y
cyfreithiwr
Prydeinig
Peter Benenson
y mudiad yn
1961
, gyda'i bencadlys yn
Llundain
. Seilir Amnest Rhyngwladol ar rwydwaith o grwpiau lleol gwirfoddol ac aelodau unigol ar draws y byd, sydd yn mabwysiadu carcharorion cydwybod ac yn dilyn'u hachosion gyda'r
llywodraethau
perthnasol neu drwy gyrff rhyngwladol. Mae dulliau'r mudiad o ymchwilio ac ymgyrchu yn cynnwys monitro, cyhoeddusrwyd trwy'r
cyfryngau torfol
, a gohebiaeth gydag unigolion.
Mae gan Amnest Rhyngwladol tua 1 miliwn o aelodau byd-eang, gyda 5,300 o grwpiau gwirfoddol ac adrannau a drefnir yn ol gwlad mewn 56 o wledydd, a chefnogwyr mewn 162 o wledydd. Caiff ei gyllido gan roddion gwirfoddol. Derbynnodd
Gwobr Heddwch Nobel
yn
1977
am "ei ymdrechion ar ran amddiffyn urddas dynol yn erbyn trais a darostyngiad".
Enillodd
Wobr Erasmus
ym 1976.
[1]