Alecsandria
|
|
Math
| dinas a phorthladd, bwrdeistref, dinas fawr, polis,
dinas
|
---|
Enwyd ar ol
| Alecsander Fawr
|
---|
|
Poblogaeth
| 4,870,000
|
---|
Sefydlwyd
| |
---|
Cylchfa amser
| Egypt Standard Time, Daylight saving time in Egypt
|
---|
Gefeilldref/i
| Bratislava
,
Casablanca
, Constan?a,
Durban
, Kazanlak, Kanpur, Yevlakh, Gyumri,
Odesa
,
Shanghai
,
St Petersburg
,
Thessalonici
,
Jeddah
, Kuching,
Le Mans
, Bwrdeistref Limassol,
Cleveland
,
Bengasi
,
Baltimore, Maryland
, Paphos
|
---|
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
| Arabeg
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Rhan o'r canlynol
| Yr Aifft Isel
|
---|
Sir
| Alexandria Governorate
|
---|
Gwlad
| Yr Aifft
|
---|
Arwynebedd
| 2,523 km²
|
---|
Uwch y mor
| ?1 metr
|
---|
Cyfesurynnau
| 31.1975°N 29.8925°E
|
---|
Cod post
| 21500
|
---|
|
Statws treftadaeth
| Tentative World Heritage Site
|
---|
Manylion
|
---|
|
|
- Mae hyn yn erthygl am y ddinas adnabyddus yn yr Aifft. Am enghreifftiau eraill o'r enw Alexandria, gweler
Alexandria (gwahaniaethu)
.
Alexandria
(hefyd
Alecsandria
weithiau yn
Gymraeg
) (
Groeg
: Aλεξ?νδρεια,
Copteg
: ??????
Rakot?
,
Arabeg
: ??????????
Al-Iskandariya
, Arabeg yr Aifft: ????????
Eskendereyya
), (poblogaeth o tua 3.5 i 5 miliwn), yw dinas fwyaf ond un
yr Aifft
, a'i phorthladd mwyaf.
Ymestyn Alexandria am tua 20 milltir (32 km) ar hyd arfordir
Mor y Canoldir
yng nghanolbarth gogledd yr Aifft. Mae'n gartref i'r
Bibliotheca Alexandrina
, Llyfrgell Newydd Alexandria, ac mae'n ganolfan ddiwydiannol bwysig oherwydd y pibellau
olew
a
nwy
naturiol sy'n cyrraedd yno o
Suez
.
Yn yr
Henfyd
, roedd Alexandria yn un o'r dinasoedd enwocaf yn y byd am ei dysg a'i hadeiladau ysblennydd. Cafodd ei sefydlu yn 331 CC gan
Alecsander Fawr
, a bu'n brifddinas yr Aifft am bron i fil o flynyddoedd ar ol hynny, nes i'r
Arabiaid
oresgyn yr Aifft yn
641
OC a sefydlu prifddinas newydd yn
Fustat
(sydd heddiw'n rhan o
Gairo
). Roedd Alexandria yn enwog am
Oleudy Alecsandria
(un o
Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd
),
Llyfrgell Alexandria
(llyfrgell fwyaf yr Henfyd) a
Catacombs
Kom el Shoqafa
. Mae gwaith archaeolegol parhaol yn harbwr Alexandria (a ddechreuwyd yn 1994) yn datgelu gwybodaeth am Alexandria cyn cyfnod Alecsander Fawr, pan oedd dinas
Rhakotis
ar y safle, ac yng nghyfnod brenhinllin y
Ptolemiaid
ar ol hynny.
Adeiladau a chofadeiladau
[
golygu
|
golygu cod
]
- Amgueddfa Alexandria
- Mosg Abu El Abbas Masjid
- Palas yr Arlywydd
- Palas Montaza
- Palas Ras el-Tin
- Pont Stanley