Mae
Pixar Animation Studios
yn gwmni cynhyrchu ffilmiau wedi'u hanimeiddio ar gyfrifiadur sydd wedi ei leoli yn
Emeryville, Califfornia
, yn yr
Unol Daleithiau
. Erbyn heddiw, mae'r stiwdio wedi ennill pedair ar hugain o
Wobrau'r Academi
, chwe
Golden Globe
, a thair
Grammy
, ynghyd a nifer o wobrau a llwyddiannau eraill. Mae'r stiwdio'n fwyaf adnabyddus am ffilmiau wedi'u hanimeiddio ar gyfrifiadur sy'n cael eu creu gan ddefnyddio PhotoRealistic RenderMan.
Dechreuodd Pixar ym 1979 o dan yr enw Graphics Group, a oedd yn rhan o Adran Gyfrifiadurol Lucasfilm cyn cafodd ei brynu gan gyd-sefydlwr
Apple
Steve Jobs
ym 1986. Prynodd Cwmni Walt Disney Pixar yn 2006.
Mae Pixar wedi cynhyrchu 11 ffilm, gan ddechrau gyda
Toy Story
ym 1995, ac mae pob un o'r ffilmiau wedi derbyn beirniadaethau canmoladwy ac wedi bod yn llwyddiannus o safbwynt masnachol. Yn sgil llwyddiant "Toy Story" ym 1995, aeth Pixar ymlaen i ryddhau
A Bug's Life
ym 1998,
Toy Story 2
ym 1999,
Monsters, Inc.
yn 2001,
Finding Nemo
yn 2003,
The Incredibles
yn 2004,
Cars
yn 2006,
Ratatouille
yn 2007,
WALL-E
yn 2008,
Up
yn 2009 (sef ffilm gyntaf Pixar i gael ei chyflwyno ar fformat Digidol 3-D Disney) a
Toy Story 3
yn 2010 (sef ffilm mwyaf llwyddiannus Pixar o safbwynt masnachol erbyn heddiw, gan wneud dros $1.06 biliwn yn fyd-eang).
Ers cyflwyno'r categori am y Ffilm Gorau wedi'u Hanimeiddio yng Ngwobrau'r Academi, mae Pixar wedi cael eu henwebu ar saith achlysur ac wedi ennill 5 o'r gwobrau.