Awdur, actor, cyfarwyddwr theatrig a cherdd o Gymro yw
Cefin Roberts
(ganwyd
28 Hydref
1953
).
Magwyd Cefin yn
Llanllyfni
,
Dyffryn Nantlle
ac yn byw ym Mangor. Astudiodd yng
Ngholeg y Drindod Caerfyrddin
a
Choleg Cerdd a Drama Caerdydd
. Bu’n gweithio i Gwmni Theatr Cymru ym Mangor gan weithio o dan ofal
Wilbert Lloyd Roberts
yn ysgrifennu a chyfarwyddo.
[1]
[2]
Fe sefydlodd Cefin y grwp poblogaidd "
Hapnod
" gyda'i wraig Rhian yn yr wythdegau cynnar. Fe ddarlledwyd tair cyfres o "Hapnod" - rhaglen adloniant ysgafn ar
S4C
yn yr 1980au.
[3]
Sefydlodd
Ysgol Glanaethwy
yn 1990 ym Mharc Menai,
Bangor
, yr ysgol berfformio cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Ymunodd a chriw cynhyrchu
Rownd a Rownd
yn 1995 ac roedd yn bennaf gyfrifol am fraslunio straeon i'r gyfres. Derbyniodd Gymrodoriaeth gan y
Coleg Cerdd a Drama
yn 1997 a Chymrodoriaeth gan
Brifysgol Bangor
yn 2001 am ei wasanaeth i fyd y theatr ac ym maes hyfforddi ieuenctid.
[2]
Bu'n Gyfarwyddwr Artistig
Theatr Genedlaethol Cymru
rhwng 2003 a 2010.
[4]
Yn 2003, enillodd y
Fedal Ryddiaith
yn
Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau
am ei nofel
Brwydr y Bradwr
.
[2]
Mae'n briod a Rhian Roberts ac mae'n dad i
Mirain Haf
a Tirion Anarawd.
[2]
Mae Mirain hefyd yn actores a chantores nodedig a cyhoeddwyd llyfr ffeithiol
Cefin Roberts a Mirain Haf
am y tad a'r ferch yn 2004.
Teitl
|
Blwyddyn
|
Gwasg
|
Nodiadau
|
Brwydr y Bradwr
|
2003
|
Gwasg Gwynedd
|
|
Cymer y Seren
|
2009
|
Gwasg Gwynedd
|
|
Perffaith Chwarae Teg, Ysgol Glanaethwy 1990-2011
|
2011
|
Gwasg Carreg Gwalch
|
Hanes Ysgol Glanaethwy, yng ngyfres 'Syniad Da'
|
Cofion, Cefin
|
2012
|
Gwasg y Bwthyn
|
|
Sgin Ti Fonolog
|
2018
|
Gwasg y Bwthyn
|
|
Os na ddon nhw
|
2019
|
Lolfa
|
Nofel
|
Nadolig Pwy a Wyr 2
|
2019
|
Gwasg y Bwthyn
|
Amlgyfrannog
|