Mae'r
calendr Hebreaidd
(
???? ?????
ha'luach ha'ivri
), neu'r
calendr Iddewig
, yn
galendr lloerheulol
a gaiff ei ddefnyddio heddiw fel arfer mewn cysylltiad a chysyniadau crefyddol. Defnyddir y
calendr
hwn i bennu gwyliau Iddewig a pha bryd y darllenir y
Torah
yn gyhoeddus a dyddiadau
yahrzeits
pan gofir am farwolaeth perthynas. Yn
Israel
, mae'n galendr swyddogol a ddefnyddir at bwrpas dinesig a hyd yn oed fel canllaw amser ar gyfer amaethu.
Daw enwau'r misoedd a geir yn y calendr Hebreaidd o
Fabilon
yn wreiddiol. Dechreuodd yr Iddewon eu defnyddio yn ystod eu halltudiaeth yn 6g cyn Crist.
- ???? (Nisan)
- ???? (Iyar)
- ???? (Sifan)
- ???? (Tamws)
- ?? (Af)
- ???? (Elwl)
- ???? (Tishrei)
- ?????? (Marcheshfan)
- ???? (Cislef)
- ??? (Tefet)
- ??? (Shfat)
- ??? (Adar; Adar I ac Adar II mewn blwyddyn naid)
Y cyfnod a ddefnyddir ar gyfer y calendr Hebreiadd ers yr Oesoedd Canol yw
Anno Mundi
(
Lladin
: "ym mlwyddyn y byd";
Hebraeg
: ?????? ????? , "o greadigaeth y byd"). Cyfnod yr oes hon yw'r foment pan grewyd y byd, yn ol
Llyfr Genesis
. Felly mae rhif y flwyddyn yn 3760 neu 3761 yn fwy na'r flwyddyn gyfatebol yng
nghalendr Gregori
.
Yn yr un modd ag
Anno Domini
(AD), dylai'r geiriau neu'r talfyriad ar gyfer
Anno Mundi
(AM) ragflaenu'r dyddiad yn iawn yn hytrach na'i ddilyn.
Mae blwyddyn safonol yn y calendr hwn yn cynnwys 12 mis; chwe mis a 29 diwrnod, a chwe mis a 30 diwrnod, gan wneud cyfanswm o 354 diwrnod. Mae hyn oherwydd bod y misoedd yn cael eu cyfrif yn ol cylchro'r lleuad, sef tua 29.5 diwrnod. Fodd bynnag, mewn blynyddoedd naid gall y flwyddyn fod a 353 neu 355 o ddiwrnodau. Felly dechreuodd AM 5783 ar fachlud haul 25 Medi 2022 a bydd yn dod i ben ar fachlud haul ar 15 Medi 2023.