Dramodydd a bardd
Gwyddelig
yn ysgrifennu yn
Ffrangeg
a
Saesneg
oedd
Samuel Barclay Beckett
(
13 Ebrill
1906
?
22 Rhagfyr
1989
). Enillodd
Wobr Lenyddol Nobel
yn
1969
.
Samuel Beckett
|
---|
|
Ffugenw
| Andrew Belis?
|
---|
Ganwyd
| Samuel Barclay Beckett?
13 Ebrill 1906?
Dulyn
, Foxrock?
|
---|
Bu?farw
| 22 Rhagfyr 1989?
Paris
, 14ydd arrondissement Paris?
|
---|
Man?preswyl
| Swydd Dulyn
|
---|
Dinasyddiaeth
| Gweriniaeth Iwerddon
,
Ffrainc
|
---|
Alma?mater
| |
---|
Galwedigaeth
| ysgrifennwr
, ieithydd,
cyfarwyddwr ffilm
,
sgriptiwr
, cricedwr,
bardd
, nofelydd,
dramodydd
, cyfieithydd,
athro
, deallusyn, gwrthsafwr Ffrengig, artist fideo?
|
---|
Adnabyddus?am
| Murphy, Molloy, Malone Dies, The Unnamable, Wrth aros Godot, Watt, Diweddgan, Krapp's Last Tape, How It Is?
|
---|
Arddull
| ffilm ddrama
|
---|
Mudiad
| Nouveau Roman?
|
---|
Priod
| Suzanne Dechevaux-Dumesnil?
|
---|
Perthnasau
| James Beckett?
|
---|
Gwobr/au
| Gwobr Lenyddol Nobel
, Gwobr Formentor, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Saoi, honorary doctorate of Trinity College, Dublin, Scholar of Trinity College, Dublin, Obie Award, star on Playwrights' Sidewalk?
|
---|
Chwaraeon
|
---|
llofnod
|
---|
|
Ganed ef yn Foxrock, ar gyrion
Dulyn
. Astuddiodd Ffrangeg,
Eidaleg
a Saesneg yng
Ngholeg y Drindod, Dulyn
o 1923 hyd 1927. Wedi graddio cafodd swydd
lecteur d'anglais
yn yr
Ecole Normale Superieure
ym
Mharis
, lle daeth i adnabod
James Joyce
.
Cyhoeddodd ei draethawd cyntaf,
...Bruno. Vico..Joyce
, yn 1929. Yn 1930 dychwelodd i Goleg y Drindod fel darlithydd, ond ymddiswyddodd y flwyddyn wedyn. Ysgrifennodd ei nofel gyntaf,
Dream of Fair to Middling Women
, yn 1932, ond ni allodd gael cyhoeddwr iddi. Yn 1935, cyhoeddodd gasgliad o farddoniaeth,
Echo's Bones and Other Precipitates
. Bu'n teithio llawer yn Ewrop, a chyhoeddodd nofel
Murphy
yn 1938.
Bu'n aelod o'r
Resistance
Ffrengig yn ystod
yr Ail Ryfel Byd
, a chyflwynodd y llywodraeth y
Croix de guerre
a'r
Medaille de la Resistance
iddo ar ddiwedd y rhyfel. Rhwng Hydref 1948 a Ionawr 1949 bu'n gweithio ar ei ddrama enwocaf,
En attendant Godot
. Cyhoeddwyd hi yn 1952, a bu'r perfformiad cyntaf yn 1953. Aeth ymlaen i ysgrifennu nifer o ddramau eraill.
Bu farw ar
22 Rhagfyr
1989
a chladdwyd ef yn y
Cimetiere du Montparnasse
ym Mharis.
Cyfieithiadau i'r Gymraeg
golygu
- Diweddgan
(1969), cyfieithiad gan
Gwyn Thomas
o
Fin de Partie
yn y gyfres
Dramau'r Byd
.
- Wrth aros Godot
(1970), cyfieithiad gan
Saunders Lewis
o "En attendant Godot", Cyfres y ddrama yn Ewrop.