Gwleidydd a chadfridog o
Ffrainc
oedd
Charles Andre Joseph Marie de Gaulle
(
22 Tachwedd
1890
?
9 Tachwedd
1970
). Fe'i ganwyd yn
Lille
. Fe'i ystyrir yn un o ffigurau gwleidyddol pwysicaf yr
20g
.
Charles de Gaulle
|
---|
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ea/General_Charles_de_Gaulle_in_1945.jpg/220px-General_Charles_de_Gaulle_in_1945.jpg) |
Ffugenw
| Charles de Lugale?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Ganwyd
| Charles Andre Joseph Marie de Gaulle?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) 22 Tachwedd 1890?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Lille
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Bu?farw
| 9 Tachwedd 1970?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) o aneurysm?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Colombey-les-Deux-Eglises?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Man?preswyl
| Palas Elysee?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Dinasyddiaeth
| Ffrainc
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Alma?mater
| - Ecole speciale militaire de Saint-Cyr
- College Stanislas de Paris
- Yr Ysgol Ryfel Uwch?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png)
|
---|
Galwedigaeth
| gwladweinydd
, bywgraffydd, tactegydd milwrol, swyddog milwrol,
gwleidydd
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Swydd
| Arlywydd Ffrainc
, Llywydd y Cyngor, president of the Provisional Government of the French Republic, Cyd-Dywysog Ffrainc, Cyd-Dywysog Ffrainc, llywydd corfforaeth, Minister of National Defence?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Adnabyddus?am
| Memoires de guerre?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Prif?ddylanwad
| Philippe Petain
, Charles Maurras?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Plaid?Wleidyddol
| UDR, RPF?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Tad
| Henri de Gaulle?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Mam
| Jeanne Maillot?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Priod
| Yvonne de Gaulle?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Plant
| Anne de Gaulle, Philippe de Gaulle, Elisabeth de Gaulle?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Llinach
| teulu de Gaulle?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwobr/au
| Uwch Groes Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Cymrawd y 'Liberation', Gwobr Ysgol Filwrol Saint-Cyr, Royal Order of Cambodia, Order of the Dragon of Annam, Cadwen Frenhinol Victoria, Marchog Urdd yr Eliffant, Urdd Brenhingyff Chakri, Croix de guerre 1939?1945, Croix de guerre 1914?1918, Uwch Ruban Urdd Cenedlaethol y Cedrwydd, Uwch Feistr y Lleng Anrhydedd, honorary doctor of the University of Brasilia, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Silver Cross of the Virtuti Militari, Medal Victoria, Urdd y Gwaredwr, honorary citizen of Brussels, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Gwobr Marcelin Guerin, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, honorary citizen of Mons?
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
llofnod
|
---|
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3b/Charles_de_Gaulle_Signature_2.svg/150px-Charles_de_Gaulle_Signature_2.svg.png) |
- Am Charles de Gaulle y llenor ewch i
Charles de Gaulle
Roedd yn swyddog galluog a daeth i'r amlwg yn y
1930au
pan gyhoeddodd ei lyfr
Vers l'armee de metier
(
1934
), lle mae'n dadlau dros greu byddin fodern broffesiynol. Cafodd ei ddyrchafu'n gadfridog yn
1940
pan dorrodd
yr Ail Ryfel Byd
allan. Roedd yn aelod o gabinet
Paul Reynaud
ond gwrthwynebai'r cytundeb armistis a gadwai Ffrainc allan o'r rhyfel.
Yn dilyn
cwymp Ffrainc
i fyddin
yr Almaen
yn yr Ail Ryfel Byd, bu'n cynnal o Loegr lywodraeth alltud o'r enw
Ffrainc Rydd
. Yn y cyfnod anodd hwnnw daeth de Gaulle i fod yn symbol o wladgarwch i nifer o Ffrancod, gan ysgogi'r
resistance
gyda'i
apel
ar 18 Mehefin 1940. Ond roedd tensiynau yn bodoli eisoes ym mherthynas de Gaulle a llywodraethau
Prydain Fawr
ac
America
. Teimlai de Gaulle fod y Cynghreiriad yn ei ddefnyddio. Yn
1943
fe'i penodwyd yn llywydd y Pwyllgor dros Ryddhad Cenedlaethol, a oedd newydd ei sefydlu, yn
Algiers
. Ar ddiwedd y rhyfel ffurfiodd lywodraeth dros dro; ef oedd yr arlywydd o
1945
hyd ei ymddeoliad ohono yn
1946
.
Arlywydd y Bumed Weriniaeth
golygu
De Gaulle yn datgan "
Je vous ai compris!
" yn
Algiers
, 4 Mehefin 1958
Deuddeng mlynedd wedi iddo ymddiswyddo o arwain
Llywodraeth Ddros Dro Ffrainc
, dychwelodd Charles de Gaulle i arwain ei wlad ar ol
argyfwng Mai 1958
, a achoswyd gan analluogrwydd
y Drydedd Weriniaeth
i ddatrys
Rhyfel Algeria
a ddechreuodd ym 1954. Croesawyd dychweliad de Gaulle gan
Fyddin Ffrainc
a'r
pieds-noirs
, setlwyr Ewropeaidd Algeria, oedd yn disgwyl iddo gefnogi achos
Algeria Ffrengig
. Ar 4 Mehefin 1958 ymwelodd yr arlywydd newydd ag Algeria ac fe'i groesawyd fel achubwr, gan ymddangos o flaen torfeydd gorawenus a datgan "
Je vous ai compris!
" ("Yr wyf wedi eich deall!").
Ond yn fuan cafodd y fyddin a'r
pieds-noirs
eu dadrithio gan eu harweinydd newydd. Dod a therfyn i'r rhyfel oedd blaenoriaeth de Gaulle yn ystod pedair mlynedd gyntaf ei arlywyddiaeth, ac wynebodd cyfyngiadau sylweddol o bob ochr wrth geisio cyflawni'r dasg hon. Roedd gorchfygiad
Brwydr Dien Bien Phu
yn ffres yng nghof Byddin Ffrainc, ond nid oedd cadfridogion nac milwyr y rhengoedd isaf yn dymuno cilio rhag trefedigaeth Ffrengig eto. Roedd y
pieds-noirs
yn dymuno cadw eu statws breintiedig yn Algeria dros y boblogaeth frodorol. Yn ogystal roedd nifer o gefnogwyr gwleidyddol de Gaulle, megis
Michel Debre
, Prif Weinidog rhwng 1959 a 1962, o blaid gadw Algeria yn rhan o Ffrainc. Ac agwedd y
Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol
(FLN) oedd i barhau i ryfela nes yr oedd annibyniaeth i weriniaeth Algeriaidd brodorol.
Er mwyn trechu'r cyfyngiadau hyn, defnyddiodd de Gaulle nid yn unig ei rymoedd arlywyddol ond hefydd ei fri, dylanwad, a chymeriad personol.
[1]
Gwnaeth defnydd o rethreg wladgarol ar deledu. Ar 16 Medi 1959, darlledwyd araith gan de Gaulle o
Balas Elysee
. Ynddi, addawodd yr arlywydd i sicrhau
hunan-benderfyniad
ar gyfer holl boblogaeth Algeria o fewn pedair mlynedd i gadoediad gan bob ochr yn y gwrthdaro. Rhestrodd tri dewis am ddyfodol Algeria:
annibyniaeth
("ymwahaniad"), integreiddiad ("Ffranceiddio"), ac "uniad agos a Ffrainc". Ffafriodd de Gaulle y drydydd dewis, a gyda'r araith hon fe siapiodd y ddadl dros ddyfodol Algeria. Llwyddodd i greu tir canol rhwng dymuniadau'r setlwyr dros integreiddio a dymuniadau'r brodorion dros annibyniaeth.
Nid oedd ymateb swyddogion y fyddin yn Algeria i'r araith yn ffafriol, a dechreuant ymochri ag elfennau eithafol yng nghymuned y
pieds-noirs
gan alw am ddymchweliad de Gaulle. Ar 24 Ionawr 1960 cafodd streic gyffredinol ei galw yn Algiers, a dechreuodd nifer o'r fyddin gydymdeimlo a'r
pieds-noirs
yn ystod gwrthryfel
Wythnos yr Atalgloddiau
. Ar 29 Ionawr rhoddodd de Gaulle araith i amddiffyn cysyniad hunan-benderfyniad gan apelio at y fyddin a'r
pieds-noirs
. Roedd ganddi effaith mawr ac ildiodd arweinwyr y gwrthryfel ar 31 Ionawr.
Wrth i realiti annibyniaeth ddod yn agosach, ar 22 Ebrill 1961 arweiniodd y Cadfridogion
Challe
,
Salan
,
Jouhaud
, a
Zeller
putsch
yn erbyn de Gaulle gan gipio Algiers ac arestio cynrychiolwyr llywodraeth Paris. Ar 23 Ebrill condemiodd de Gaulle y putsch fel "antur ddwl ac atgas" a galwodd ar luoedd Ffrengig i aros yn ffyddlon i'w arlywyddiaeth. Methodd y putsch yn sydyn a chynyddodd poblogrwydd yr arlywydd. Rhoddodd hyn gryfder i de Gaulle yn nhrafodaethau Evian ym Mai 1961, ond oherwydd ei fynegiadau cyhoeddus niferus o'i ddymuniad i ddod a therfyn i'r rhyfel mor gynted ag oedd yn bosib, bu rhaid iddo wneud nifer o gonsesiynau i'r FLN. Ar 8 Ebrill 1962, cadarnhawyd
cytundebau Evian
gan 90% o bleidleiswyr yn Ffrainc fetropolitanaidd, ac ym 1962 enillodd Algeria ei hannibyniaeth.
Ym Medi
1961
ceisiodd y mudiad terfysgol asgell dde, yr
Organisation de l'Armee secrete
(OAS), ei lofruddio am ei fod yn barod i ildio annibyniaeth ar Ffrainc i
Algeria
. Seiliodd y nofelydd
Frederick Forsyth
ei nofel
Day of the Jackal
ar y digwyddiad a chafwyd ffilm enwog o'r un enw yn
1973
yn ogystal.
Wedi i Algeria gael ei hannibyniaeth yn
1962
, canolbwyntiodd de Gaulle ar safle Ffrainc ar y llwyfan ryngwladol. Roedd Ffrainc wedi colli nifer o'i drefedigaethau, neu ar fin eu colli, a theimlai fod Prydain ac America yn ceisio gwthio'r wlad o'r neilltu. Gweithiodd yn galed o blaid ei weledigaeth o Ewrop o wledydd annibynnol ond cydweithredol a fyddai'n rhydd o ddylanwad yr Unol Daleithiau. Gwrthododd lofnodi'r
Cytundeb Gwahardd Profi Arfau Niwclear
yn
1963
a thynnodd Ffrainc allan o
NATO
yn
1966
. Gwrthwynebai gais Prydain i ymuno a'r
EEC
.
Ond wynebai densiynau cynyddol yn Ffrainc ei hun. Roedd protestiadau anferth
Mai, 1968
gan fyfyrwyr a gweithwyr yn argyfwng iddo. Ymddeolodd yn
1969
yn sgil colli refferendwm ar ddiwygiad cyfansoddiadol.
Priododd Charles de Gaulle
Yvonne Vendroux
ar 7 Ebrill 1921. Cafon nhw tri phlentyn: Philippe (1921?2024), Elisabeth (1924?2013), a briododd y Cadfridog Alain de Boissieu, ac Anne (1928?1948). Roedd gan Anne
syndrom Down
a bu farw'n oed 20.
Am flynyddoedd lawer ar ol ei farwolaeth ym 1970 roedd ei bolisiau
Gaullaidd
yn ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth Ffrainc. Mae'n parhau'n ffigwr dadleuol heddiw.
Roedd ei ewythr, hefyd o'r enw
Charles de Gaulle
, yn fardd
Llydaweg
ac yn un o arloeswyr
Pan-Geltigiaeth
.
- Cook, D.
Charles de Gaulle: A Biography
(Llundain, Secker & Warburg, 1984).
- Crozier, B.
De Gaulle: The Statesman
(Llundain, Eyre Methuen, 1973).
- De Gaulle, C.
Memoirs of Hope: Renewal 1958?62, Endeavour 1962?
(Llundain, Weidenfeld and Nicolson, 1971). Cyfieithwyd gan Terence Kilmartin.
- Fenby, J.
The General: Charles de Gaulle and the France He Saved
(Llundain, Simon & Schuster, 2010).
- Horne, A.
A Savage War of Peace: Algeria 1954?1962
(Efrog Newydd, New York Review Books, 2006).
- Jackson, J.
Charles de Gaulle
(Llundain, Cardinal, 1990).
- Pickles, D. 'General de Gaulle and Algeria',
The World Today
, 17(2) (1961) pp.?49?58.
- Schoenbrun, D.
The Three Lives of Charles de Gaulle
(Llundain, Hamish Hamilton, 1966).
- Shennan, A.
De Gaulle
(Llundain, Longman, 1993).
- Sulzberger, C. L.
The Test: De Gaulle and Algeria
(Llundain, Rupert Hart-Davis, 1962).
Comin Wikimedia