한국   대만   중국   일본 
Barcelona - Wicipedia

Barcelona

prifddinas Catalwnia

Dinas Barcelona (dyweder "Barselona") yw prifddinas cymuned ymreolaethol Catalwnia a thalaith Barcelona yng ngogledd-ddwyrain Sbaen , Saif ar lan Mor y Canoldir , rhyw 120?km o'r ffin a Ffrainc . Mae wedi'i leoli rhwng aberoedd afonydd Llobregat a Besos, a'i ffin orllewinol yw mynyddoedd Serra de Collserola sydd a'i gopa uchaf yn 512 metr (1,680 tr) o uchter.

Barcelona
Math bwrdeistref yng Nghatalwnia, dinas  Edit this on Wikidata
Prifddinas Barcelona? Edit this on Wikidata
Poblogaeth 1,660,122? Edit this on Wikidata
Pennaeth?llywodraeth Jaume Collboni Cuadrado? Edit this on Wikidata
Cylchfa?amser UTC+01:00, UTC+2? Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Nawddsant Virgin of Mercy? Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
??swyddogol
Catalaneg , Sbaeneg , Ocsitaneg  Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan?o'r?canlynol Barcelona metropolitan area, Red de Juderias de Espana? Edit this on Wikidata
Sir Barcelones? Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Catalwnia Catalwnia
Baner Sbaen Sbaen
Arwynebedd 101.3?km²? Edit this on Wikidata
Uwch y mor 9 metr? Edit this on Wikidata
Gerllaw Y Mor Canoldir , Besos, Afon Llobregat  Edit this on Wikidata
Yn?ffinio?gyda Cerdanyola del Valles, Molins de Rei, Montcada i Reixac, El Prat de Llobregat , Sant Feliu de Llobregat, Santa Coloma de Gramenet, Esplugues de Llobregat, l'Hospitalet de Llobregat , Sant Just Desvern, Sant Cugat del Valles, Sant Adria de Besos? Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 41.3825°N 2.1769°E? Edit this on Wikidata
Cod?post 08001?08042? Edit this on Wikidata
Corff?gweithredol Cyngor Dinas Barcelona? Edit this on Wikidata
Swydd?pennaeth
??y?Llywodraeth
maer Barcelona? Edit this on Wikidata
Pennaeth?y?Llywodraeth Jaume Collboni Cuadrado? Edit this on Wikidata
Map
Esgobaeth Roman Catholic Archdiocese of Barcelona? Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl yma am ddinas Barcelona. Am y tim pel-droed, gweler FC Barcelona .

Gyda phoblogaeth o 1,593,075, Barcelona yw'r ail ddinas fwyaf yn Sbaen o ran maint, a'r 11eg o ran maint yn yr Undeb Ewropeaidd (disgwylir fod y ddegfed o ran maint ar ol Brexit). Mae poblogaeth Ardal Ddinesig Barcelona yn 4.7 miliwn. [1]

Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau o bwysigrwydd rhyngwladol ym Marcelona, yn cynnwys Arddangosfeydd Rhyngwladol yn 1888 a 1929 , y Chwaraeon Olympaidd yn 1992 a Forum 2004 yn 2004. Mae hefyd yn ganolfan ffasiwn, addysg a masnach . [2]

Mae gan Barcelona ddiwylliant cyfoethog ac amrywiol, a chaiff ei hystyried yn un o brif ganolfannau diwylliant ac yn un o gyrchfanau mwyaf poblogaidd Ewrop i ymwelwyr. Yma y ceir rhai o weithiau pensaerniol gorau'r byd, gan gynnwys gwaith y ddau bensaer Antoni Gaudi a Lluis Domenech i Montaner , a ddynodwyd gan UNESCO yn Safleoedd Treftadaeth y Byd .

Mae gweddillion o ddiwedd y cyfnod Neolithig wedi eu darganod, ond yr hanes cyntaf am Barcelona yw fel sefydliad Iberaidd. Cipiwyd y ddinas gan y cadfridog Carthaginaidd Hamilcar Barca , tad Hannibal . Yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig cipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid a'i henwi yn Julia Augusta Paterna Faventia Barcino yn y flwyddyn 218 C.C.

Yn y 5g daeth yn brifddinas teyrnas y Visigothiaid yn Sbaen, ac yn yr 8g daeth dan reolaeth Islamaidd wedi ei chipio gan Al-Hurr. Ail-gipiwyd y ddinas gan y Cristionogion yn 801 , ond parhaodd ymosodiadau Islamaidd, a dinistriwyd llawer o'r ddinas yn 985 gan filwyr Almanzor. Daeth y ddinas yn llewyrchus iawn yn y 13g , ond o'r 15g bu dirywiad. Tua diwedd y 18g dechreuodd diwydiant dyfu yma, a bu deffroad economaidd a diwylliannol yn y 19g .

Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yr oedd y ddinas ar ochr y Gweriniaethwyr, ond yn y diwedd fe'i cipiwyd gan fyddin Franco yn 1939. Wedi marwolaeth Franco, bu datblygiadau economaidd a diwylliannol pellach yn y ddinas, yn enwedig o ganlyniad i gynnal y Chwaraeon Olympaidd yno yn 1992.

Tarddiad yr enw

golygu

Ceir yr enghraifft cynharaf o'r enw ar ddarn arian, ac fe'i sgwennwyd mewn ysgrifen Iberaidd hynafol fel Barkeno (   ), [3] ac mewn llawysgrifau Groegaidd fel Βαρκιν?ν , Barkin?n ; [4] [5] ac mewn Lladin fel Barcino , [6] Barcilonum [7] a Barcenona . [8] [9] [10]

Mannau o ddiddordeb

golygu
 
Y Sagrada Familia

Mae dau Safle Treftadaeth y Byd ym Marcelona:

  • Gweithiau Antoni Gaudi ( Park Guell a Palau Guell, Casa Mila, Casa Batllo , casa Vicens a'r Sagrada Familia).
  • Y Palau de la Musica Catalana a'r Hospital de Sant Pau.

Ymfudiad

golygu
Y grwpiau mwyaf o ymfudwyr yn Barcelona [11]
Cenedligrwydd Poblogaeth (2016)
   Yr Eidal 26,676
   Pacistan 19,160
   Gweriniaeth Pobl Tsieina 18,434
   Ffrainc 13,506
   Moroco 12,537
   Bolifia 9,291
   Y Philipinau 8,682
   Ecwador 8,109
   Periw 7,944
   Colombia 7,904

Yn 2016 ganwyd 59% o drigolion y ddinas yng Nghatalwnia a 18.5% o weddill y wlad (cyfanswm o 77.5%). Ar ben hyn, daeth 22.5% o boblogaeth y ddinas o'r tu allan i Sbaen - dwbwl yr hyn ydoedd yn 2001 a 4 gwaith cymaint a 1996. [12]

O Ewrop y daw'r rhan fwyaf o ymfudwyr,: yr Eidal (26,676) a Ffrainc (13,506) ac yna gwledydd America Ladin : Bolifia , Ecwador a Colombia . Ym maestrefi gogleddol y ddinas y sefydlodd llawer o'r rhai hyn. [13]

Ceir hefyd cymuned eitha mawr o Bacistan : oddeutu 20,000, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ddynion. [14]

Pobl o Farcelona

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Boeing, G. (2016). "Honolulu Rail Transit: International Lessons in Linking Form, Design, and Transportation" . Planext 2 : 28?47 . http://geoffboeing.com/publications/honolulu-rail-transit-barcelona/ . Adalwyd 29 Ebrill 2016 .
  2. "The World According to GaWC 2010" . Globalization and World Cities Study Group and Network, Prifysgol Loughborough University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2013 . Cyrchwyd 13 Mai 2014 .
  3. Emerita: Revista de Linguistica y Filologia clasica 11 (1943), t.468
  4. Ptolemi , ii. 6. §?8
  5. Gudmund Schutte (1917). Ptolemy's Maps of Northern Europe: A Reconstruction of the Prototypes . H. Hagerup. t.?45.
  6. Smith, Sir William (1854). Dictionary of Greek and Roman Geography: Abacaenum-Hytanis . Boston, Massachusetts: Little, Brown and Company. t.? 378 .
  7. Rufus Festus Avienus Ora Maritima ≪?et Barcilonum amoena sedes ditium.?≫ v514 Archifwyd 12 August 2013 [Date mismatch] yn y Peiriant Wayback .
  8. Gustav Parthey (1848). Itinerarium Antonini Avgvsti et Hierosolymitanvm: ex libris manvscriptis . F. Nicolai. t.?188.
  9. Petrus Wesseling; Hierocles (The Grammarian) (1735). Vetera Romanorum itineraria, /: sive Antonini Augusti Itinerarium . apud J. Wetstenium & G. Smith. t.?390.
  10. Joel Cook (1910). The Mediterranean and Its Borderlands . t.?334.
  11. "Barcelona DaTaSHeeT 2012" (PDF) . Ajuntament de Barcelona. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-01-22 . Cyrchwyd 9 Medi 2014 .
  12. "Ajuntament de Barcelona - Population, household and homes statistics" , adalwyd 22 Mehefin 2017.
  13. Sian Preece, The Routledge Handbook of Language and Identity (Routledge, 2016), t.513
  14. "Barcelona's Pakistani community" , adalwyd 12 Mehefin 2017.