Dinas a phorthladd yn Japan yw Kobe ( Japaneg :神?市 K?be-shi ). Kobe yw prifddinas talaith Hy?go yng ngorllewin ynys Honsh? , ynys fwyaf Japan ac mae ganddi boblogaeth o tua 1.5 miliwn. Saif y ddinas ar droed Mynydd Rokko tra'n edrych allan ar Fae Osaka . Ynghyd a dinasoedd Kyoto ac Osaka mae Kobe yn cyfuno i greu ardal ddinesig Keihanshin .
Mae Kobe yn un o ddinasoedd enwocaf Japan am iddi ddioddef Daeargryn Fawr Hanshin ar 17 Ionawr 1995 lle lladdwyd 6,400 o bobl. Hon oedd daeargryn fwyaf Japan ers Daeargryn Fawr Kant? ym 1923, a laddwyd tua 140,000 o bobl.
Er y drychineb, mae Kobe wedi ail-adeiladu ei hun i fod yn ddinas fodern, cyfoethog ac yn fwy cosmopolitan o gymharu a dinasoedd eraill o'r un maint yn Japan.