Gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia a ysgrifennir yn gydweithredol gan ddarllenwyr y safle hwn. Mae'r safle yn enghraifft o
wici
, sef math arbennig o wefan lle gall unrhyw un sydd a chysylltiad i'r rhyngrwyd olygu tudalennau trwy glicio ar y botwm
golygu
. Dechreuwyd y safle Saesneg yn 2001, ac mae'r fersiwn honno wedi tyfu i ddod yn un o'r safleoedd mwyaf poblogaidd ar y we. Nod y Wicipedia Cymraeg, a sefydlwyd yn 2003, yw efelychu'r llwyddiant hwnnw ac i ddod yn adnodd defnyddiol i siaradwyr Cymraeg ar y we.
Mae'n bwysig cofio fod gwahaniaethau sylfaenol yn bodoli rhwng Wicipedia a ffynonellau gwybodaeth traddodiadol. Gan fod yr hawl gan unrhyw un i olygu tudalennau, mae gwallau yn medru treiddio erthyglau, ac yn achlysurol ceir fandaliaeth neu wybodaeth anghywir mewn erthygl. Y ffordd orau i sicrhau bod y ffeithiau a gynhwysir mewn erthygl yn gywir yw edrych ar y ffynonellau a roddwyd ynddi; os gwelwch erthygl sydd angen ffynonellau, gallwch helpu drwy ychwanegu ffynonellau perthnasol.
Rhoddir cyfraniadau i Wicipedia yn hollol wirfoddol, o dan y trwyddedi
Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported
a
GNU Free Documentation License
(GFDL). Mae'r trwyddedi hyn yn defnyddio'r broses hawlfraint i sicrhau nad yw'r wybodaeth byth yn cael ei reoli gan unrhyw un person, fel ei bod ar gael am byth.
Felly, mae'r wybodaeth yn Wicipedia ar gael i unrhyw un ei chopio, ei hail-ddosbarthu neu ei newid dros eu hunain, cyn belled a bod y fersiwn newydd yn rhoi'r un hawliau i eraill, a bod awduron yr erthygl wreiddiol yn derbyn cydnabyddiaeth (fel arfer mae cysylltiad nol i'r erthygl wreiddiol yn gwneud y tro).