한국   대만   중국   일본 
Sut i gyfrannu - MediaWiki

Sut i gyfrannu

This page is a translated version of the page How to contribute and the translation is 96% complete.
Outdated translations are marked like this.


Mae cynnwys pob prosiect Wikimedia wedi'i ryddhau dan drwyddedau am ddim. Cewch ysgrifennu cod i gyrraedd, ailgymysgu a thyfu'r gronfa enfawr hon o wybodaeth am ddim. Dilynwch y canllawiau i gychwyn arni gyda'r API , sydd ar gael ar bob wici MediaWiki, ac APIs eraill am gynnwys a Wikidata. Mae ffynonellau data eraill ar gael hefyd, gan gynnwys dympiau XML a SQL .
Mae ein cod i gyd yn ffynhonnell agored ac am ddim. Gallwch ddewis prosiect , darparu darn a gosod tasg!

Mae prosiectau Wikimedia yn defnyddio ieithoedd amrywiol megis PHP a JavaScript yn MediaWiki a'i estyniadau , Lua (mewn Templedi ), CSS/LESS (mewn crwyn ac yn y blaen), Objective-C, Swing a Java (mewn Apiau Symudol ac yn Kiwix ), Python (yn Pywikibot ) neu C++ (yn Huggle ) neu C# (yn AWB ). Crewch fotiau i brosesu cynnwys a chadwch eich offer ar Toolforge . Haciwch ar apiau symudol neu ar raglenni i'r bwrdd gwaith. Neu helpwch Peiriannu Dibynadwyedd y Safle i gynnal ffurfweddiad y gweinydd .

Learn more at New Developers/Introduction to the Wikimedia Technical Ecosystem .
Profi
Helpwch i wella ansawdd ein prosiectau drwy brofi PHPUnit , profi porwyr awtomatig trwy Selenium ac Integreiddio Parhaus . Gwnewch eich adroddiad cyntaf am f?g neu helpwch gydag adroddiadau cyfredol am fygiau .
Fel llysgennad technoleg , helpwch ddefnyddwyr eraill Wicimedia gyda phroblemau technegol, adroddwch Newyddion Technoleg i roi gwybod i ddefnyddwyr am yr hyn sy'n mynd i effeithio arnynt ac ymunwch a gr?p y llysgenhadon a'r rhestr bostio i weithredu fel pont rhwng y datblygwyr a'ch wici lleol.
Gall ysgrifenwyr Saesneg wella dogfennau MediaWiki , tudalennau cymorth eraill ac unrhyw rhan o'r wefan hon, mewn gwirionedd.
Os ydych chi'n rhugl mewn iaith arall nad yw'n Saesneg, gallwch ymuno yn yr ymdrech i gyfieithu'r wefan hon a meddalwedd MediaWiki .
Helpwch ddefnyddwyr a datblygwyr sy'n chwilio am atebion wrth y ddeg gymorth neu sianeli cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol MediaWiki.
Helpwch i roi egwyddorion cynllunio Wikimedia ar waith mewn prosiectau sy'n chwilio am adborth UX.
Gallwch gyfarfod ag aelodau eraill o'r gymuned ar-lein neu wyneb yn wyneb .
Canllawiau i'ch arwain trwy dechnolegau MediaWiki and Wikimedia.

Mwy o wybodaeth ddefnyddiol

Cyfathrebu

Golygu a thrafod ym MediaWiki

Os ydych chi heb ddefnyddio MediaWiki o'r blaen: