한국   대만   중국   일본 
Ffilm - Wikiquote Neidio i'r cynnwys

Ffilm

Oddi ar Wikiquote

Dyfyniadau sy'n ymwneud a Ffilm a chyfarwyddwyr ffilm .

Gyda ffynhonnell [ golygu ]

  • Photograffiaeth yw'r gwirionedd . Mae'r sinema yn wirionedd pedair gwaith ar hugain yr eiliad .
    • [ addasiad ] Cinema is truth at twenty-four frames a second
    • Pwy: Jean-Luc Godard , Le Petit Soldat (ffilm) (cyfarwyddo a sgript, 1960)
  • Rhuban o freuddwydion ydy ffilm. Mae'r camera gymaint yn fwy nag offer recordio; cyfrwng ydyw i drosglwyddo negeseuon i ni o fyd arall na sydd yn rhan o'n byd ni ac sy'n dod a ni i galon y gyfrinach fawr. Dyma ble y dechreua'r hud.
    • Pwy: Orson Welles
  • "Ysgrifennir ffilmiau Americanaidd gan bobl hanner-dysgedig ar gyfer y bobl hanner call." ~ St. John Ervine
    • Ney York Mirror (Mehefin 6, 1963)
  • "Mae sgrin lydan yn gwneud ffilm wael ddwy waith yn waeth." ~ Samuel Goldwyn
    • Quote (Medi 9, 1956)
  • Hen butain ydy'r sinema, fel syrcas ac amrywiaeth, sy'n gwybod sut i ddarparu sawl math gwahanol o bleser. ~ Federico Fellini ,
    • Atlantic Rhagfyr 1965