Undeb masnachol Almaenig oedd y
Zollverein
, sef clymblaid o daleithiau
Almaenig
a ffurfiwyd er mwyn rheoli
masnach
a polisiau economaidd o fewn eu tiriogaethau. Sefydlwyd ym
1818
, fe smentiodd yr undeb gwreiddiol y bartneriaeth gyda thiriogaethau
Prwsia
a
Hohenzollern
, gan gadarnhau cyseinedd economaidd rhwng daliadau tir gwasgaredig y teulu Hohenzollern, a oedd hefyd yn rheoli Prwsia. Ehangodd y
Zollverein
rhwng
1820
ac
1866
i gynnwys y rhan fwyaf o daleithiau'r Almaen. Cafodd
Awstria
ei wahardd am fod ei ddiwydiant wedi ei amddiffyn yn gryf; fe waethygodd hyn y gystadleuaeth rhwng Prwsia ac Awstria i ddomineiddio
Canolbarth Ewrop
, yn arbennig yn ystod y
1850au
a'r
1860au
. Pan sefydlwyd
Conffederasiwn Gogledd yr Almaen
ym
1868
, roedd y
Zollverein
yn cynnwys tua 425,000 cimloetr sgwar, ac wedi cynhyrchu cytundebau economaidd gyda gwledydd di-Almaenig megis
Lwcsembwrg
a
Sweden
.