Zaporizhzhya
Trem yn y nos ar Rodfa'r Gadeirlan (Prospekt Sobornyi), yng nghanol Zaporizhzhia.
|
|
Math
| dinas fawr, dinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcrain
|
---|
Enwyd ar ol
| Zaporozhzhia
|
---|
|
Poblogaeth
| 710,052
|
---|
Sefydlwyd
| - 952
|
---|
Pennaeth llywodraeth
| Rehina Kharchenko
|
---|
Cylchfa amser
| Amser Haf Dwyrain Ewrop, UTC+2, UTC+03:00
|
---|
Gefeilldref/i
| |
---|
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
| Wcreineg
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Sir
| Yekaterinoslav, Zaporizhzhia Governorate, Yekaterinoslav, Zaporozhye okruga, Cyngor Dinas Zaporozhye, Zaporizhzhia urban hromada
|
---|
Gwlad
|
Wcrain
|
---|
Arwynebedd
| 331 km²
|
---|
Uwch y mor
| 86 metr
|
---|
Gerllaw
| Afon Dnieper
|
---|
Cyfesurynnau
| 47.85°N 35.1175°E
|
---|
Cod post
| 69001?69124
|
---|
Gwleidyddiaeth
|
---|
Corff deddfwriaethol
| Cyngor Dinas Zaporozhye
|
---|
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
| city head
|
---|
Pennaeth y Llywodraeth
| Rehina Kharchenko
|
---|
|
|
|
Dinas
yn
Wcrain
a chanolfan weinyddol
Oblast Zaporizhzhia
yw
Zaporizhzhia
(
Wcreineg
: Запор?жжя,
Rwseg
: Запорожье
trawslythreniad:
Zaporozhye
) a saif ar
Afon Dnieper
. Ei henw hanesyddol, hyd at 1921, oedd Oleksandrivsk (Wcreineg: Олекса?ндр?вськ, Rwseg: Александровск
Aleksandrovsk
).
Codwyd cadarnle yma ym 1770, fel un o'r amddiffynfeydd ar hyd ffin ddeheuol
Ymerodraeth Rwsia
yn erbyn
Chaniaeth y Crimea
. Dewiswyd y safle am ei bod yn agos i bencadlys hanesyddol y Cosaciaid ar Ynys Khortitsa, i dde rhaeadrau'r Dnieper, er mwyn atgyfnerthu rheolaeth Rwsia ar
Gosaciaid Zaporizhzhia
yn sgil diddymu'r
Hetmanaeth
. Dyrchafwyd Oleksandrivsk yn dref ym 1806, a thyfodd yn gyffordd bwysig wrth gludo nwyddau, yn enwedig wedi adeiladu'r rheilffordd yn y 1870au.
Achoswyd difrod mawr i Oleksandrivsk yn ystod
Chwyldro Rwsia
(1917?20). Dan lywodraeth
Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcrain
, ailenwyd ac adferwyd y dref, a ffynnai'r economi yn sgil adeiladu Gorsaf Drydan D?r y Dnieper ym 1927?32. Boddwyd rhaeadrau'r Dnieper o ganlyniad i'r argae a godwyd fel rhan o'r orsaf drydan d?r. Dinistriwyd yr argae gan
y Fyddin Goch
ym 1941 er mwyn atal
yr Almaen Natsiaidd
rhag ei gipio. Ailadeiladwyd yr argae a'r pwerdy gan y llywodraeth Sofietaidd wedi diwedd
yr Ail Ryfel Byd
. Datblygodd diwydiant
meteleg
Zaporizhzhia ar sail yr orsaf drydan d?r, gan gynnwys gweithfeydd haearn a dur a melin stribedi a barrau, a cheir hefyd ffatrioedd i gynhyrchu ceir ac offer trydanol ac i droi sgil-gynhyrchion
coc
yn gemegion diwydiannol.
[1]
Gostyngodd y boblogaeth o 815,000 yn 2001 i 799,000 yn 2005,
[1]
ac i 755,000 yn 2016.
[2]