Ysgol
sy'n dysgu drwy gyfrwng y
Gymraeg
yn unig yw
Ysgol Gymraeg
. Mae'r rhan fwyaf ohonynt mewn ardaloedd Seisnigedig yng
Nghymru
. Y Gymraeg hefyd yw iaith chwarae, cymdeithasu, a gweinyddu.
Symbyliad sefydlu ysgol Gymraeg bron yn ddieithriad yw pwysau gan rieni, ac mewn rhai amgylchiadau yn erbyn rhwystrau enbyd o du Awdurdodau Addysg. Y corff sydd yn gwarchod buddiannau y rhieni yw
Rhieni Dros Addysg Gymraeg
, sef 'Rhag'.
Mae'n debyg mai'r ysgolion Cymraeg sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am y cynnydd yn nifer y plant oedran ysgol sy'n siarad Cymraeg yn ol cyfrifiadau
1991
a
2001
. Cred nifer o bobl fod yr ystadegau hynny'n gamarweiniol.
[
angen ffynhonnell
]
Yr unig ysgol Gymraeg reolaidd y tu allan i Gymru yw
Ysgol Gymraeg Llundain
.
|
---|
Pynciau
| |
---|
Sefydliadau
| |
---|
Undebau
| |
---|
Cyllid
| |
---|
Byrddau arholi
| |
---|
Hanesyddol
| |
---|
|