한국   대만   중국   일본 
Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol

Oddi ar Wicipedia

ON Ni ddylid drysu'r Eglwys hon ag Eglwys y tri chyngor , a elwir yn Oriental Orthodox yn Saesneg .

Ail enwad Gristnogol fwya'r byd, a'r mwyaf o'r Eglwysi Uniongred , gyda rhwng 150 a 350 miliwn o ddilynwyr, yw'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol . Fe wahanodd o Eglwys y tri chyngor ym 451 , ac o'r Eglwys Gatholig Rufeinig ym 1054 . Prif grefydd Belarws (89%), Bwlgaria (86%), Gweriniaeth Cyprus (88%), Georgia (89%), Gwlad Groeg (98%), Macedonia (70%), Moldofa (98%), Montenegro (84%), Rwmania (89%), Ffederasiwn Rwsia (76%), Serbia (88%), ac Wcrain (83%) ydyw, a cheir niferoedd sylweddol mewn gwledydd eraill.

Ymrannodd yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol a'r Eglwys Gatholig oddi wrth ei gilydd yn y Sgism Fawr neu'r Sgism Ddwyreiniol fel y'i gelwir weithiau, ( Groeg schisma ). Dechreuodd yn 857 pan ysgymunwyd Photius, Patriarch Caergystennin gan y Pab Sant Nicolas I ( 858 - 867 ). Ymatebodd y patriarch drwy herio uniongrededd Eglwys Rhufain, yn arbennig yn achos cymal yng Nghredo Nicea yngl?n a tharddiad yr Ysbryd Glan o Grist (y cymal filioque "ac o'r Mab..").

Daeth yr anghydfod i'w uchafbwynt cyntaf yn 1054 pan ysgymunwyd y patriarch Cerularius o Gaergystennin ( 1043 - 1058 ) am iddo feirniadu diweirdeb offeiriadol gorfodol y Gorllewin a defnyddio bara heb ei godi yn yr offeren fel arferion hereticaidd . Er gwaethaf ymgeision i gymodi yn Ail Gyngor Lyons yn 1274 a Chyngor Fflorens yn 1439 , daeth y rhwyg terfynol yn 1472 . Un ffactor a arweiniodd at y rhwyg terfynol oedd ymddygiad y Croesgadwyr yn ymosod ar Gristnogion ac eglwysi uniongred yn Asia Leiaf a'r Lefant , gan gynnwys ymosod ar Gaergystennin ei hun a'i dal ( 1204 - 1261 ).


Eglwysi Uniongred fesul gwlad       Prif grefydd       Nifer sylweddol o ganlynwyr (dros 10%)


Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .