Dinas yn ne canolbarth ynys
Jawa
yn
Indonesia
yw
Yogyakarta
. Mae'n brifddinas ranbarthol arbennig. Y ddinas oedd sedd llywodraeth Gweriniaeth Indonesia o 1945 hyd 1950, pan ddaeth
Jakarta
yn brifddinas.
[1]
Mae Yogyakarta yn ganolfan bwysig ar gyfer celfyddydau cain a diwylliant clasurol Jawa fel bale, cerddoriaeth, phypedwaith
wayang
, drama, celfyddydau gweledol, tecstilau
batic
, llenyddiaeth, barddoniaeth, a gof arian.
[2]
Mae'r ddinas yn gartref i
Brifysgol Gadjah Mada
, y brifysgol fwyaf yn Indonesia.