한국   대만   중국   일본 
Ynys Vancouver - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Ynys Vancouver

Oddi ar Wicipedia
Ynys Vancouver
Math ynys   Edit this on Wikidata
Poblogaeth 775,347  Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC?08:00  Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir British Columbia   Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Canada  Canada
Arwynebedd 32,134 km²  Edit this on Wikidata
Gerllaw Y Cefnfor Tawel , Strait of Georgia  Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 49.6°N 125.5°W  Edit this on Wikidata
Hyd 460 cilometr  Edit this on Wikidata
Map

Ynys oddi ar arfordir gorllewinol Canada yw Ynys Vancouver ( Saesneg : Vancouver Island , yn flaenorol Island of Quadra and Vancouver ). Mae'n rhan o dalaith British Columbia , ac mae'r boblogaeth tua 750,000.

Mae'r ynys yn 454 km o hyd a 100 km o led, gydag arwynebedd o 32,134 km2; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Mon yn 714 km². Hi yw'r ynys fwyaf ar arfordir gorllewinol Gogledd America . Mynydd Golden Hinde ydy mynydd uchaf yr ynys, 2,200m o uchder. [1] Gwahenir yr ynys o'r tir mawr gan Gulfor Georgia , Gulfor Queen Charlotte , Gulfor Johnstone a Chulfor Juan de Fuca . Mae sawl llyn ar yr ynys, gan gynnwys Llyn Nimpkish , Llyn Cowichan , Llyn Buttle , Llyn Sproat, , Llyn Great Central a Llyn Campbell . [2] Dinas fwyaf yr ynys yw Victoria , sydd hefyd yn brifddinas British Columbia.

Mae 5 y cant o boblogaeth yr ynys yn bobl brodorol, a siaredir ieithoedd Salishan a Wakashan o hyd. [2]

Hanes [ golygu | golygu cod ]

Daeth fforwyr o Sbaen , Ffrainc , Rwsia , Prydain a'r Unol Daleithiau i'r ynys yn ystod y 18g, gan gynnwys James Cook a George Vancouver . [2]

Ym 1843, penderfynodd Cwmni Bae Hudson i adeiladu caer, a thyfodd cymuned o gwmpas Caer Fictoria. Daeth yr ynys yn diriogaeth Prydeinig ar ol Cytundeb Washington ym 1846. a daeth yn wladfa Prydeinig ym 1849. Daeth yn rhan o Golumbia Brydeinig ym 1866, a daeth Columbia Brydeinig yn rhan o Ganada ym 1871. [2]

Darganfuwyd glo ar yr yn y 1850au, ac roedd amaethyddiaeth yn bwysig ar dir isel y dwyrain, yn arbennig o gwmpas Duncan , Courtenay a Comox . Mae'r ynys yn nodweddiadol am ei fforest law gymedrol, ac adeiladwyd melinau coed ym Mhorth Alberni ac yn Chemainus . [2]

Cludiant [ golygu | golygu cod ]

Cwch yn pasio Campbell River a fferi tu ol iddo

Adeiladwyd Rheilffordd Esquimault a Nanaimo ym 1886.

Mae Fferriau BC yn cynnig rhwydwaith eang o wasanaethau rhwng Ynys Vancouver, y tir mawr ac ynysoedd llai'r ynysfor. [3]

Mae BC Transit yn cynnig gwasanaethau bws dros Columbia Brydeinig, gan gynnwys Ynys Vancouver. [4]

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Victoria yn ymyl Sidney , ar Benrhyn Saanich . [5] Mae meysydd awyr eraill yn Nanaimo , Campbell River , Porth Hardy a Comox. Yn ogystal, mae gwasanaethau awyrennau mor yn ddefnyddio'r porthladdoedd a llynnau.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]