Ynys yng ngogledd
Canada
yw
Ynys Melville
, sy'n un o
Ynysoedd Queen Elizabeth
. Mae ganddi arwynebedd o 42.149 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Mon yn 714 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, rhennir yr ynys rhwng
Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin
a
Nunavut
.
Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd yr ynys oedd fforwyr Prydeinig dan
William Edward Parry
, a dreuliodd aeaf 1819-20 yma. Enwyd hi ar ol Robert Dundas, 2ail Feicownt Melville (1771?1851).