Mae
Ynys Bouvet
(Norwyeg
Bouvetøya
) yn ynys fwlcanaidd is-Antarctigaidd yn
Mor Iwerydd
y De, i'r de-orllewin o
Benrhyn Gobaith Da
,
De Affrica
, oddi ar gyfandir
yr Antarctig
.
Mae'r ynys yn
ddibynnol
ar
Norwy
ond nid yw'n ffurfio rhan o deyrnas Norwy ei hun. Ni chynwysir Ynys Bouvet yn
Nghytundeb yr Antarctig
am ei bod yn rhy bell i'r gogledd. Does neb yn byw ar yr ynys.
Lleolir Ynys Bouvet yn 54°26' De, 3°24' Dwyrain. Mae'r ynys yn mesur tua 12 km ar draws ar ei lletaf. Ei harwynebedd yw 58.5 km² gyda 93% ohoni'n orchuddiedig gan
rewlifoedd
sy'n llesteirio mynediad i'r glannau deheuol a dwyreiniol; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Mon yn 714 km².
Nid oes gan yr ynys na phorthfa na harbwr, dim ond angorfeydd oddi ar yr arfordir, ac felly mae'n lle anodd i'w cyrraedd o'r mor. Mae'r rhewlifoedd yn ffurfio haen trwchus o rew sy'n disgyn i'r mor yn glogwynni rhew uchel neu ar draethau duon o dywod fwlcanaidd. Amgylchynir y 29.6 km (18.4 milltir) o arfordir gan bac rhew yn aml.
Ceir tri mynydd arni, sef
Olavtoppen
(780m) yn y gogledd, a
Mosbytoppen
(670m) a
Lykketoppen
(766m) yn y gorllewin. Mae silff craig
lafa
a ymddangosodd ar lan orllewinol yr ynys rhwng
1955
a
1958
yn cynnig lle i adar nythio.
Mae Ynys Bouvet, fel
Tristan da Cunha
,
Ynys y Pasg
ac
Ynys Pitcairn
, yn un o'r ynysoedd mwyaf anghysbell yn y byd. Y tir agosaf yw
Queen Maud Land
yn Antarctica, dros 1,600 km (1,000 milltir) i ffwrdd yn y de, sydd ei hun yn anghyfanedd.
Darganfuwyd Ynys Bouvet ar yr
11 Ionawr
,
1739
, gan y morwr
Jean-Baptiste Charles Bouvet de Lozier
oedd yn arwain y llongau hwyliau Ffrengig
Aigle
a
Marie
. Ond gan nad oedd lleoliad yr ynys wedi'i gofnodi'n iawn ac nad oedd Bouvet wedi hwylio oddi amgylch yr ynys, roedd yn anodd gwybod os oedd Ynys Bouvet yn ynys neu'n rhan o gyfandir.
Ni welwyd yr ynys eto tan
1808
, gan gapten Lindsay y llong
hela morfiloedd
Swan
o'r Cwmni Enderby. Ni laniodd Lindsay ond gosododd lleoliad yr ynys yn gywir.
Yn Rhagfyr
1822
glaniodd y dynion cyntaf ar yr ynys, sef Capten Benjamin Morrell a chriw y
Wasp
, llong hela
morlo
. Yn
1825
, hefyd yn Rhagfyr, glaniodd Capten Norris meistr y llongau
Sprightly a
Lively
o'r Cwmni Enderby; enwodd yr ynys
Liverpool Island
a'i hawlio i'r Goron Brydeinig.
Am dros hanner canrif nid oes cofnod o ymweliad, ond yn
1898
hwyliodd Carl Chun o'r fenter Antarctigaidd Almaenig
Valdivia
yn agos i'r ynys a thynwyd lluniau ohoni.
Yn
1927
, arosodd criw Norwyaidd y
Norvegia
ar yr ynys am fis ac rhoddasant yr enw
Norwyaeg
Bouvetøya arni, sail hawliad tiriogaethol Norwy i'r ynys; cafodd ei chymryd drosodd ar
21 Rhagfyr
, 1927, ac ar
23 Ionawr
,
1928
daeth yn
diriogaeth Norwyaidd
yn sgil Datganiad Brenhinol. Yn
1930
pasiwyd deddf yn Norwy a wnaeth yr ynys yn diriogaeth ddibynnol dan sofraniaeth coron Norwy ond dim yn rhan o'r deyrnas ei hun.
Yn
1971
, gwnaethpwyd Ynys Bouvet a'r dyfroedd tiriogaethol o'i hamgylch yn warchodfa natur. Erys yr ynys yn anghyfanedd, er i orsaf meteorolegol awtomatig gael ei osod yno yn
1977
gan Norwy. Mae gan yr ynys ei chod
ISO
ei hun (
.bv
) ond nis defnyddir. Mae dyrnaid o fentrau
radio amatur
wedi ymweld a'r ynys. Mae Ynys Bouvet yn gorwedd ym mharth amser Z
UTC
;
Atlantic/St_Helena
yw ei pharth yn y gronfa data parthau amser.