Mae'r
Fantell goch
(lluosog:
mentyll cochion
) yn
loyn byw
cymharol fawr sy'n perthyn i deulu'r
Nymphalidae
. Yr enw Saesneg arno yw
Red Admiral
, a'i enw gwyddonol yw
Vanessa atalanta
. Mae i'w weld yn
Ewrop
,
Asia
a
Gogledd America
. Daw i Gymru yn ystod yr haf o For y Canoldir, fel arfer tua dechrau Gorffennaf.
[2]
Lled yr adenydd ar eu heithaf ydy rhwng 45 ? 50 mm (dwy fodfedd).
[3]
Yn ne Ewrop, mae hefyd i'w weld yn hedfan yn ystod y gaeaf. Fe'i disgrifwyd am y tro cyntaf gan y naturiaethwr
Carl Linnaeus
yn 1758, yn ei 10fed cyfrol o
Systema Naturae
.
[4]
Gwelir yr oedolyn yn aml yn bwydo ar ddail yr
eiddew
(neu iorwg) neu'n yfed o flodau'r
Buddleia
, neu ffrwyth goraeddfed, a hynny fel arfer mewn coedwigoedd llaith. Caiff yr wyau gwyrdd eu dodwy ar ddail y
danadl poethion
(
Urtica dioica
), un ddeilen i bob ?y. Bydd y
lindys
yn deor a bydd yn creu amddiffynfa iddo ei hunan drwy dynnu ymylon y ddeilen at ei gilydd.
Mae'r oedolion yn gallu gaeafgysgu.
-
Wyau
-
Lindys ifanc
-
Lindys h?n
-
Chwiler
-
Vanessa atalanta
-
Vanessa atalanta
△
Ystyr 'mantell' ydy 'hugan' neu 'glogyn'. Daw'r enw Lladin
Vanessa atalanta
o'r
Iaith Roeg
; roedd
Atlanta
yn gymeriad mytholegol. Crewyd y gair
Vanessa
gan yr awdur Eingl-Wyddelig
Jonathan Swift
yn 1708.
Gellir dosbarthu'r
pryfaid
(neu'r
Insecta
) sy'n perthyn i'r
Urdd
a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y
gloynnod byw
a'r
gwyfynod
. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o
rywogaethau
mewn tua 128 o
deuluoedd
.
Wedi deor o'i ?y mae'r mantell goch yn
lindysyn
sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn
chwiler
. Daw allan o'r chwiler ar ol rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng
nghylchred bywyd
gloynnod byw a gwyfynod:
?y
,
lindysyn
, chwiler ac oedolyn.
Comin Wikimedia