Y Taliban
Baner y Taliban, sef testun y
siahada
ar gefndir gwyn.
|
Enghraifft o'r canlynol
| terrorist organization, mudiad gwleidyddol, sefydliad milwrol, sefydliad crefyddol, sefydliad gwleidyddol
|
---|
Idioleg
| Islamiaeth
, Pashtunwali,
Deobandi
, cenedlaetholdeb crefyddol, Islamic fundamentalism, Jihadism
|
---|
Label brodorol
| ??????
|
---|
Dechrau/Sefydlu
| 1994
|
---|
Pennaeth y sefydliad
| Amir al-Mu'minin
|
---|
Sylfaenydd
| Mohammed Omar, Abdul Ghani Baradar
|
---|
Pencadlys
| Affganistan
,
Pacistan
,
Catar
|
---|
Enw brodorol
| ??????
|
---|
Gwefan
| https://alemarahenglish.af/
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Mudiad gwleidyddol, crefyddol, a milwrol sydd yn arddel
ffwndamentaliaeth Islamaidd
Deobandi
,
Islamiaeth
filwriaethus, a
jihadaeth
yn
Affganistan
yw'r
Taliban
neu
Taleban
(
Pashto
: ??????,
??lib?n
sef "myfyrwyr") a reolai
Emirad Islamaidd Affganistan
o 1996 hyd 2001 ac ers 2021.
Pashtuniaid
ydynt yn bennaf.
Yn niwedd 1994, yn ystod
Rhyfel Cartreff Affganistan (1992?96)
, daeth carfan y Taliban i'r amlwg dan arweiniad
Mohammad Omar
, ac erbyn 1996 llwyddasant i gipio'r rhan fwyaf o diriogaeth Affganistan bob yn ddarn, gyda chymorth grwpiau eithafol eraill ac Arabiaid Affganaidd a oedd yn gyn-filwyr y
mujahideen
. Ym Medi 1996, meddiannwyd y brifddinas
Kabul
o'r diwedd gan y Taliban, a sefydlwyd Emirad Islamaidd Affganistan. Ar ei hanterth, rheolwyd rhyw 90% o diriogaeth y wlad gan y Taliban, a'r gweddill yn y gogledd-ddwyrain gan wrthryfelwyr
Cynghrair y Gogledd
, a gydnabuwyd gan nifer o wledydd fel olynydd Gwladwriaeth Islamaidd Affganistan. Pan oeddent wrth y llyw yn y wlad, cydnabuwyd yr emirad yn ddiplomyddol gan dair gwladwriaeth yn unig:
yr Emiradau Arabaidd Unedig
,
Pacistan
, a
Sawdi Arabia
. O dan lywodraeth Mohammed Omar, roedd
mylah
yn rheoli pob pentref, y rhan fwyaf ohonynt gyda chefndir o addysg yn ysgolion crefyddol Islamaidd ym Mhacistan. Roedd bron i 98% o aelodau'r Taliban yn Bashtuniaid o dde a dwyrain Affganistan a gogledd-orllewin Pacistan, ond yn eu plith roedd canran bychan o wirfoddolwyr o weddill
Ewrasia
nad oedd yn Bashtuniaid.
Daeth y Taliban yn ddrwg-enwog am eu triniaeth hallt o fenywod. Gorfodwyd menywod i wisgo'r
burqa
ar goedd; ni chaniateid iddynt weithio y tu allan i'r cartref; ni chaniateid iddynt gael eu haddysgu ar ol cyrraedd wyth oed, a than hynny caniateid iddynt astudio'r
Coran
yn unig; ni chaniateid iddynt gael eu trin gan feddygon gwrywaidd heb warchodwr yn bresennol; a gwynebant chwipio cyhoeddus a'r
gosb eithaf
am droseddu yn erbyn cyfraith y Taliban, seiliedig ar ddarlleniad llythrennol o
sharia
ar ei llymaf.
Bu'r frwydr rhwng y Taliban a Chynghrair y Gogledd heb enillydd nes 2001. Cwympodd y Taliban yn sgil goresgyniad y wlad gan
Unol Daleithiau America
yn niwedd 2001, a sefydlwyd
Gweriniaeth Islamaidd Affganistan
gyda chymorth yr Americanwyr a'r glymblaid ryngwladol. Aeth y lluoedd hynny ati i drechu'r Taliban yn filwrol ym mhob rhan o'r wlad, ond parhaodd llecynnau o wrthsafiad
Gwrthryfel y Taliban
am ugain mlynedd arall bron, yn arbennig yn nhaleithiau
Kandahar
a
Helmand
. Ym Mai 2021, wrth i'r nol Daleithiau ddechrau encilio'r gweddill o'u lluoedd yn Affganistan, lansiwyd
ymgyrch ymosodol
gan y Taliban yn erbyn y llywodraeth mewn ymgais i orchfygu'r holl wlad a cheisio adfer yr Emirad Islamaidd. Ym misoedd Mehefin a Gorffennaf 2021, llwyddodd y Taliban gipio mwy o diriogaeth nag ar unrhyw bryd ers eu cwymp yn 2001. Erbyn canol mis Awst amgylchynwyd Kabul, y ddinas fawr olaf yn y wlad dan reolaeth y llywodraeth, gan luoedd y Taliban. Ffoes yr Arlywydd
Ashraf Ghani
o'r wlad, a chwympodd y llywodraeth genedlaethol. Cipiwyd Kabul ganddynt ar 15 Awst, gan sicrhau buddugoliaeth i'r Taliban ac ailsefydlu Emirad Islamaidd Affganistan.
|
---|
|
Pleidiau
| |
---|
Rhyfeloedd a gwrthryfeloedd
| |
---|
Terfysgaeth
| |
---|
Camdriniaethau hawliau dynol
| |
---|
Polisi a gwleidyddiaeth
| |
---|
|