Tref glan mor a
chymuned
yn
Sir Ddinbych
,
Cymru
, yw
Y Rhyl
.
Roedd cynt yng
Nghlwyd
, a chyn hynny yn
Sir y Fflint
. Fe'i lleolir i'r dwyrain o'r
Foryd
,
aber
Afon Clwyd
. Ar hyd yr arfordir i'r gorllewin mae
Bae Cinmel
a 4 milltir i'r dwyrain mae
Prestatyn
. 2 filltir i'r de mae tref
Rhuddlan
. Ei phoblogaeth yw 24,889 (
Cyfrifiad
2001
).
Mae gan y Rhyl un o'r
traethau
gorau yn y gogledd
[
angen ffynhonnell
]
sy'n denu ymwelwyr lu yn yr haf i ymdrochi a mwynhau'r "Tywod Euraidd". Mae'r Prom llydan yn enwog am ei barlwrs gemau, neuaddau
bingo
a siopau cofroddion rhad. Yr atyniad mawr heddiw yw Canolfan yr Haul a'i th?r trawiadol. Ar ben gorllewinol y prom ceir y
ffair hwyl
a'i holwynion a
big dipper
. Gerllaw mae'r Llyn Morwrol (
Marine Lake
) a'r Tren Bach i blant sy'n rhedeg oddi amgylch iddo. Yn harbwr Y Foryd lle rhed Afon Clwyd i'r mor ceir nifer o gychod
pysgota
a
hamdden
a gorsaf y
bad achub
. Y brif ardal siopio yw'r Stryd Fawr, sy'n ymestyn rhwng y prom a'r orsaf drenau.
Darganfuwyd matog wedi'i wneud o gorn
carw
yn nechrau'r 20g yn ystod archwiliad o olion cyn-hanes a ellir ei weld pan fo'r mor ar drai; mae
dyddio carbon
wedi ei osod yn y 5g CC.
[1]
Cyfeirir at y lleoliad fel 'Splash Point', nid nepell o'r 'Heulfan' modern
[2]
a gellir gweld hen foncyffion fforest a arferai dyfu yno rhwng 6,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ol.
Does dim son am y Rhyl yn llyfr
Thomas Pennant
yn 1778 nac ychwaith gan
William Bingley
yn 1798.
[3]
Ond mae sawl dogfen yn cyfeirio at d? o'r enw 'Hill-house' neu 'hillouse' a 'Hullhouse' (o'r gair 'hill' am allt) - a hynny ynmor bell yn ol a 1351. Mae'n bosib, felly, i'r dref gael ei ho'r t? hwn. Gan nad oes yr un gallt i'w weld am rai milltiroedd, ac mae'n bosib y cyfeirir at 'motte' rhyw gaer a oedd yn arfer amddiffyn aber afon Clwyd. Cyfeirir at ddyn o'r enw 'Gronou del Hull' yn 1303 er enghraifft.
[4]
Dywed Lewis yn ei 'Lewis's Topographical Dictionary' (argraffwyd yn 1833), '...previously to the year 1820, (Rhyl) consisted only of a few scattered dwellings.'
[3]
Yn ei lyfr 'Wanderings and excursions in North Wales' gan
Thomas Roscoe
(1791-1871) a gyhoeddwyd yn 1836
[5]
dywed yr awdur:
The place owes it's prosperity to its contiguity to Liverpool, from which town it is only distant three or four hours sail, - to its being the outlet of the Vale of Clwyd, and the northern point from which travellers start on their excursions to the beautiful scenery of Wales, and to its fine and extensive beach...
Yn 1801 roedd y boblogaeth yn 289 o drigolion a llai yn 1811: 252 o drigolion.
[6]
Roedd y Rhyl yn dechrau datblygu fel canolfan gwyliau glan mor ac roedd y llongau o
Lerpwl
yn angori ger traeth y Rhyl a byddai pysgotwyr lleol yn cludo'r teithwyr i'r lan. Erbyn 1831 roedd gwasanaeth llongau ager rheolaidd yn bodoli ac felly codwyd pier bychan yn
y Foryd
. Hwyliai 'gwasanaeth paced' rhwng Lerpwl a Rhuddlan. Byddai nwyddau fel grawn yn cael eu cludo hefyd, yn ogystal a theithwyr. Arhosodd y Foryd y brif ffordd i deithwyr o ogledd-orllewin Lloegr gyrraedd y Rhyl tan 1848 pan agorodd
gorsaf reilffordd y Rhyl
. Cofnodir i dros 30 o longau hwyliau gael eu hadeiladu yn y Foryd yn hanner cyntaf y 19g.
[7]
Fel yn achos nifer o drefi glan mor eraill yng Nghymru, tyfodd y Rhyl yn gyflym yn y
19g
; gwestai preifat (megis y Royal Hotel a'r Mostyn Arms Hotel, y New Inn a'r Manchester Arms, y Belvoir a'r Family Hotel) a thai
gwely a brecwast
yw llawer o'r tai a godwyd yno erbyn heddiw. Ceir ambell enghraifft o bensaerniaeth briciau coch Fictoraidd o'r cyfnod hwnnw hefyd, er enghraifft Neuadd Frenhinol y Blodau, sy'n farchnad dan do heddiw, a Neuadd y Dref.
Mae'r Rhyl wedi dioddef dwy broblem fawr yn y degawdau diwethaf, sef methu cystadlu yn y farchnad gwyliau poblogaidd a'r mewnlifiad o bobl ddi-waith o drefi gogledd-orllewin
Lloegr
[
angen ffynhonnell
]
. Mae nifer o'r hen westai a'r tai teras yn fflatiau rhad erbyn hyn ac mae'r dref yn dioddef problemau cymdeithasol o'u herwydd.
Yng
nghyfrifiad 2011
roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
[8]
[9]
[10]
Cyfrifiad 2011
|
|
|
|
Poblogaeth cymuned Y Rhyl (pob oed) (25,149)
|
|
100%
|
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Rhyl) (3,435)
|
|
14.2%
|
:
Y ganran drwy Gymru
|
|
19%
|
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Rhyl) (13768)
|
|
54.7%
|
:
Y ganran drwy Gymru
|
|
73%
|
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Rhyl) (4,849)
|
|
44.1%
|
:
Y ganran drwy Gymru
|
|
67.1%
|
Uwchradd:
Cynradd:
Mae gorsaf drenau Rhyl ar orsaf
Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru
. Mae nifer fawr o fysus lleol yn rhedeg yn y dref ei hun ac i'r trefi cyfagos.
Cynhaliwyd
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
yn Y Rhyl ym
1892
,
1904
,
1953
a
1985
.
- ↑
'The Archaeology of Clwyd' ganGyngor Sir Clwyd, 1991 tudalen 53.
- ↑
"Gwefan y BBC"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2011-07-11
. Cyrchwyd
2009-03-20
.
- ↑
3.0
3.1
Handbook for the Vale of Clwyd
, Wiiliam Davies; argraffwyd gan Isaac Clarke, 1856. tud 21.
- ↑
Dictionary of Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer 192007
- ↑
'Wanderings and excursions in North Wales' gan
Thomas Roscoe
argraffwyd yn Llundain gan C. Tilt and Simpkin and Co.
- ↑
Gweler 'Handbook for the Vale of Clwyd' gan Wiiliam Davies; argraffwyd gan Isaac Clarke yn 1856. Tudalen 23.
- ↑
Jim Roberts,
North Wales Transport
(Sutton, 1998), tud. 95.
- ↑
"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru"
. Swyddfa Ystadegau Gwladol
. Cyrchwyd
2012-12-12
.
. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑
Canran y diwaith drwy Gymru
; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑
Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol
; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.