Y Knesset

Oddi ar Wicipedia
Y Knesset
Adeilad y Knesset.
Enghraifft o'r canlynol deddfwrfa unsiambr  Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu 14 Chwefror 1949  Edit this on Wikidata
Yn cynnwys Aelod o'r Knesset  Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliad Speaker of the Knesset  Edit this on Wikidata
Map
Pencadlys Knesset building  Edit this on Wikidata
Enw brodorol ??????  Edit this on Wikidata
Gwladwriaeth Israel   Edit this on Wikidata
Gwefan https://main.knesset.gov.il/en , https://main.knesset.gov.il , https://main.knesset.gov.il/ru , https://main.knesset.gov.il/ar   Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Deddfwrfa unsiambrog Israel yw'r Knesset ( Hebraeg : ?????????? [ha?kneset] trawslythreniad: HaKnesset ; sef "cynulliad"). Yn system wleidyddol Israel, y Knesset yw awdurdod goruchaf y wlad a chanddi sofraniaeth seneddol , ond yn ddarostyngedig i rwystrau a gwrthbwysau'r farnwriaeth . Lleolir ei adeilad yn ardal Givat Ram yng nghanol Jeriwsalem , prifddinas Israel.

Etholir aelodau'r Knesset gan y bobl, ac mae'r Knesset yn ei dro yn ethol yr arlywydd , a'r prif weinidog (a benodir yna yn ffurfiol gan yr arlywydd), ac yn goruchwylio adran weithredol y llywodraeth?hynny yw, y cabinet a ffurfir gan y prif weinidog. Y Knesset hefyd sydd yn pasio holl ddeddfau'r wlad, fel arfer ar gynnig polisiau'r cabinet.

Etholir 120 o aelodau i'r Knesset bob pedair blynedd trwy system cynrychiolaeth gyfrannol . Ni rhennir y wlad yn wahanol etholaethau ; yn hytrach, mae etholwyr yn pleidleisio dros bleidiau neu grwpiau etholiadol ar restrau hirion o ymgeiswyr, ac mae canran y bleidlais genedlaethol yn cyfateb i'r gyfran o seddi a enillir gan blaid. Mae'r drefn hon yn sicrhau cynrychiolaeth i nifer fawr o bleidiau, ac o ganlyniad mae llywodraethau clymblaid yn gyffredin.

Yn sgil cadarnhau'r Ddeddf Dros Dro gan y Cynulliad Etholedig?a etholwyd yn Ionawr 1949 i baratoi cyfansoddiad ar gyfer y wladwriaeth newydd?ar 16 Chwefror 1949, daeth y cynulliad hwnnw yn y Knesset Cyntaf. Nid oes gan Israel gyfansoddiad cyfundrefnol ffurfiol, ond rhoddir sail gyfreithiol i'r Knesset, tiriogaeth y wlad, yr arlywydd, a'r llywodraeth gan gyfres o gyfreithiau sylfaenol a basiwyd yn y cyfnod 1958?68. Ni seiliwyd y siambr newydd ar batrwm system Westminster ; fodd bynnag, mae nifer o'i rheolau a threfniadau yn debyg i D?'r Cyffredin , er enghraifft y breintiau a roddir i Arweinydd yr Wrthblaid . [1]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. (Saesneg)   Knesset . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 11 Mehefin 2023.