Cymdeithas ddysgedig a chorff proffesiynol i
ddaearyddwyr
yn
y Deyrnas Unedig
yw'r
Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol
(
Saesneg
:
Royal Geographical Society
, yn llawn
Royal Geographical Society (with the Institute of British Geographers)
). Sefydlwyd yn
Llundain
dan yr enw
Geographical Society of London
yn 1830, ar sail y
Raleigh Travellers' Club
a ffurfiwyd yn 1827. Ymgorfforwyd dan nawddogaeth frenhinol yn 1859, ac yn 1995 meddiannodd yr
Institute of British Geographers
. Lleolir ei phencadlys yn
Ninas Westminster
, ger
Neuadd Frenhinol Albert
.
[1]
Gwobrwyir
Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol
(FRGS) i aelodau o nod.
Yn y 19g hyrwyddwyd sawl alldaith gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol i fforio'r byd, yn enwedig yn
Affrica
a'r
Arctig
. Aeth nifer o fforwyr enwocaf Gwledydd Prydain i'r "Cyfandir Tywyll" gyda chymorth y Gymdeithas, yn eu plith
David Livingstone
, Syr
Richard Francis Burton
,
John Hanning Speke
,
James Augustus Grant
, a
Joseph Thomson
. Yn yr 20g hyrwyddodd y Gymdeithas deithiau i'r
Antarctig
a chyrchoedd ar
Fynydd Everest
.
Yn ogystal a chynrychioli daearyddwyr proffesiynol a threfnu ymchwil ac alldeithiau, mae'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn hybu addysg ddaearyddol i'r cyhoedd. Cyhoeddir sawl cyfnodolyn gan y Gymdeithas, gan gynnwys
Geographical Journal
,
Geographical Magazine
, ac
Area
, cynhelir a chedwir llyfrgelloedd ac ystafelloedd mapiau, a darperir gwersi
tirfesureg
a dulliau eraill. Trefnir rhyw 150 o ddarlithoedd gan y Gymdeithas pob blwyddyn, a thrwy'r
Expedition Advisory Centre
hyfforddir pobl ifanc ar gyfer gyrfaoedd yn naearyddiaeth a meysydd tebyg.