Cylchgrawn
Cymraeg
annibynnol ydy
Y Faner Newydd
. Sefydlwyd yn
1997
gan
Emyr Llywelyn
ac
Ieuan Wyn
sy'n olygyddion ers y cychwyn. Mae'r enw yn deyrnged i hen bapur
Y Faner
a ddaeth i ben yn
1992
, argreffir y cylchgrawn gan wasg
Y Lolfa
. Mae'r cylchgrawn yn canolbwyntio ar bynciau megis darlledu, llenyddiaeth, hanes, celfyddyd, gwyddoniaeth a materion cyfoes.
Tydy'r cylchgrawn ddim wedi ceisio bod yn rhan o'r "sefydliad" ac yn wir mae wedi beirniadu'r sefydliad dro ar ol tro e.e. ymgyrch i wella iaith cyflwynwyr
Radio Cymru
. Mae ef hefyd wedi rhoi sylw i bynciau sydd ar y ffin, ar yr ymylon.