한국   대만   중국   일본 
Y Brifysgol Agored - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Y Brifysgol Agored

Oddi ar Wicipedia

Prifysgol yn y Deyrnas Unedig gyda pholisi agored o dderbyn myfyrwyr yw'r Brifysgol Agored ( Saesneg : Open University ; OU ). Cynhelir y cyrsiau yn bennaf drwy ddulliau dysgu o bell. Sefydlwyd y Brifysgol Agored ym 1971 a lleolir ei phencadlys ym Milton Keynes , Swydd Buckingham , De-ddwyrain Lloegr . Y Brifysgol Agored yw Prifysgol fwyaf y Deyrnas Unedig gyda dros 250,000 o fyfyrwyr wedi cofrestru.

Mae ganddo swyddfa yng Nghymru, a Chyfarwyddwr Cymru y Brifysgol Agored yw'r hanesydd Rob Humphreys.

Eginyn erthygl sydd uchod am brifysgol neu addysg uwch . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .