Wranws
|
Symbol
|
?, ?
|
Nodweddion orbitol
|
Pellter cymedrig i'r
Haul
|
19.19
US
2.87×10
9
km
|
Radiws cymedrig
|
2,870,972,200
km
|
Echreiddiad
|
0.04716771
|
Parhad orbitol
|
84b 3d 15.66a
|
Buanedd cymedrig orbitol
|
6.8352
km
s
?1
|
Gogwydd orbitol
|
0.76986°
|
Nifer o
loerennau
|
27
|
Nodweddion materol
|
Diamedr cyhydeddol
|
51,118 km
|
Arwynebedd
|
8.13×10
9
km
2
|
Mas
|
8.686×10
25
kg
|
Dwysedd cymedrig
|
1.29 g cm
?3
|
Disgyrchiant ar yr arwyneb
|
8.69 m s
?2
|
Parhad cylchdro
|
-17a 14m
|
Gogwydd echel
|
97.86°
|
Albedo
|
0.51
|
Buanedd dihangfa
|
21.29 km s
?1
|
Tymheredd ar yr arwyneb:
|
isafrif
|
cymedrig
|
uchafrif
|
59
K
|
68K
|
...
|
|
Nodweddion atmosfferig
|
Gwasgedd atmosfferig
|
120
kPa
|
Hydrogen
|
83%
|
Heliwm
|
15%
|
Llosgnwy
|
1.99%
|
Amonia
|
0.01%
|
Ethan
|
0.00025%
|
Asetylen
|
0.00001%
|
Carbon monocsid
Hydrogen sylffid
|
arlliw
|
|
Y seithfed
blaned
oddi wrth yr
Haul
a'r drydedd mwyaf o ran tryfesur yw
Wranws
(symbol:
). Mae Wranws yn fwy ei thryfesur ond yn llai ei chynhwysedd na
Neifion
. Enwyd Wranws ar ol
Wranos
, duw Groeg y nefoedd.
Un rheswm pam nad adnabuwyd Wranws fel planed tan 1781 oedd ei bod mor eithriadol o bell, ddwywaith pellach na Sadwrn o'r haul. Golyga hynny ei bod yn ymddangos yn fechan iawn iawn o'r Ddaear (prin iawn yn weladwy a'r llygad noeth) ond hefyd mae'n eithriadol o araf yn teithio rownd yr haul ? unwaith pob 84 mlynedd. Mewn gwirionedd roedd sawl seryddwr wedi ei nodi fel seren ers 1690, ond neb cyn Herschell wedi sylwi ei bod yn symyd yn araf bach.
Mae Wranws yn cymryd 84 mlynedd i gylchdroi am yr haul ? blwyddyn Iwranaidd go hir felly ? ac mae'n cylchdroi ar ei hechel bob 17 awr, sy'n eitha cyflym o ystyried ei maint ac yn golygu bod gwyntoedd cryfion iawn yn chwyrlio ar ei hwyneb. Nodwedd anarferol yw fod gogwydd ei chylchdroi 'dyddiol' ar ongl o 98° i'r fertigol. Hynny yw, mae fel 'tae'n gorwedd ar ei hochr o'i chymharu a'r planedau eraill. Un damcaniaeth i esbonio hynny yw ei bod wedi gwrthdaro a chorff arall yn y gorffennol pell a bod hynny wedi ei thaflu oddiar ei hechel.
Bu dipyn o firi yngl?n ag enwi'r corff gofodol newydd. Roedd Herschell, fel sais teyrngar a oedd, yn sgil ei ddarganfyddiad, bellach yn cael ei noddi'n hael gan y Brenin Sior III ac am ei henwi'n 'Georgium Sidus' neu'r blaned George ar ol ei noddwr. Diolch i Dduw chafodd y syniad hwnnw fawr o groeso gan seryddwyr dramor. Cynigion eraill oedd 'Neptune', 'Herschillium' neu'r blaned Herschell ac Uranus.
Ymhen amser yr enw 'Uranus', gynigiwyd gan y seryddwr Almaenig Johann Bode, ddaeth i'r brig. Dyma'r ffurf Ladin o Ouranos, sef duw'r awyr gwreiddiol y Groegiaid, gafodd ei sbaddu a'i ladd gan ei fab Cronos (Sadwrn) cyn i Cronos yntau gael ei drechu yn ei dro gan ei fab Zeus (Iau) a ddaeth yn frenin y duwiau (gweler rhif 7 o'r gyfres hon, Llafar Gwlad 98). Dadl Bode oedd, am mai Sadwrn oedd tad Iau, y dylsai'r blaned newydd gael ei henwi ar ol tad Sadwrn, er mwyn cwbwlhau'r olyniaeth fel 'tae.
Daliodd llawer iawn o gyhoeddiadau seisnig at yr enw 'Georgium Sidus' tan yr 1850au. Mae'n ddiddorol bod
Elfennau Seryddiaeth
, gyhoeddwyd gan Thomas Gee yn 1851 yn dal i arddel yr enw Herschell, gan ychwanegu: ' Ond ar hyn o bryd, yn enwedi gan seryddion tramor, Uranus yw enw mwyaf cyffredin y blaned hon.'
Herschell oedd yr enw hefyd yn
Yr Anianydd Cristnogol
(21ain arg., 1856), sef cyfieithiad y Parch Thomas Levi o waith Thomas Dick, lle dywed (tud. 209) bod bywyd arni: '…gallwn fod yn sicr, i'r hwn a osododd fodau teimladol mewn unrhyw barth, gymhwyso, yn ol deddfau anadnabyddus…(g)yfansoddiad yr aneddwr a natur ei aneddle.'
- '…A'u cyflwr wedi'i wneuthur at y lle
- A drefnwyd gan Ragluniaeth ddoeth y Ne.'
Darganfuwyd Wranws, y blaned gyntaf i gael ei darganfod yn amserau modern, gan
William Herschel
ar
13 Mawrth
1781
. Roedd mewn gwirionedd wedi cael ei gweld llawer gwaith o'r blaen ond wedi cael ei ystyried yn seren (cafodd ei gatalogio fel
34 Tauri
ym
1690
gan
John Flamsteed
). Cafodd ei enwi gan Herschel fel "the Georgium Sidus" (y blaned Sioraidd) i anrhydeddu ei noddwr,
Sior III, brenin y Deyrnas Unedig
; roedd eraill yn ei galw wrth yr enw "Herschel". Cafodd yr enw "Wranws" ei gynnig gan
Bode
mewn cydymffurfiaeth a'r enwau planedol eraill o
fytholeg glasurol
ond ni ddaeth mewn defnydd cyffredin tan
1850
.
Roedd y darganfyddiad yn peri dipyn o benbleth, embaras hyd'noed, i astrolegwyr. Hyd yn hyn roedd y planedau yn ffitio'n daclus iawn i batrwm cyfarwydd a hir-sefydliedig lle roedd gan bob un ei heffaith benodol (honedig) ar ein tynghedau ni ddaearolion wrth iddynt deithio'r llwybr drwy'r gofod oedd yn mynd a nhw ar draws y cytserau a elwir yn 12 arwydd y Sidydd. Ystyrid, er enghraifft, y byddai pa bynnag blaned ddigwyddai fod yn croesi eich arwydd Sidydd adeg eich genedigaeth yn ddylanwadol iawn arnoch am weddil eich oes.
I ddilynwyr y cyfundrefnau astrolegol Tsieiniaidd ac Indiaidd yr ateb hawdd oedd anwybyddu'r blaned newydd yn llwyr gan ei hystyried yn rhy bell i gael unrhyw effaith. Hydnoed yma, gwelwn nad oes son am Iwranws yng ngwaith yr astrolegwr / almanaciwr R Jones yn ei 'Seryddiaeth' (1830). Ond yn raddol, yma yn y gorllewin, aethpwyd ati i greu rol newydd iddi a bellach fe'i cysylltir a deallusrwydd, dilyn eich trywydd eich hun, syniadau anghonfensiynnol a darganfyddiadau. Mae hyn yn codi, i raddau helaeth iawn, o'r ffaith fod darganfyddiad Iwranws, ar ddiwedd y 18g, yn cyfateb i'r cyfnod a elwir yn Oes yr Ymoleuo (Enlightenment) pan ddaeth bri ar syniadau am ddemocratiaeth, cyfiawnder a hawliau dynol. Gwelwn hyn yn yr egwyddorion tu cefn i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau newydd a'r Chwyldro Ffrengig. Dyma hefyd gyfnod yr Oes Ramantaidd gyda'i phwyslais ar unigolyddiaeth a rhyddid mewn mynegiant celfyddydol.
Ymwelwyd Wranws ar
24 Ionawr
1986
gan
Voyager 2
. Mae'r rhan fwyaf o'r planedau'n troi ar echel sydd bron a pherpendicwlar i arwyneb y rhod ond mae echel Wranws bron a bod yn gyfochrog i'r rhod. Yn ystod ymweliad Voyager 2 roedd pegwn deheuol Wranws yn pwyntio tua'r Haul. Canlyniad hyn ydy bod ardaloedd pegynol Wranws yn derbyn mwy o egni'r Haul nag ei hardaloedd cyhydeddol. Serch hynny, mae Wranws yn fwy poeth ei gyhydedd nag ei begynau. Ni wybyddir y mecanwaith sy'n achosi hynny.
Cyfansoddir Wranws yn anad dim o greigiau a rhewogydd amrywiol, gyda dim ond 15%
hydrogen
ac ychydig
heliwm
. Ymddengys nad oes calon greigiog gan Wranws eithr mae ei deunydd mwy neu lai wedi ei ddosbarthu'n unffurf.
Mae awyrgylch Wranws tua 83% hydrogen, 15% heliwm a 2%
methan
.
Fel y
cewri nwy
eraill, mae gan Wranws fandiau o gymylau sy'n chwythu o gwmpas yn gyflym. Mae lliw glas Wranws yn ganlyniad o fethan yn yr awyrgylch uchaf yn llyncu golau coch. Gellir bod yna fandiau lliwgar fel ar
Iau
ond maen nhw wedi eu gorchuddio gan yr haen fethan.
Fel y cewri nwy eraill, mae gan Wranws fodrwyau. Fel modrwyau Iau maen nhw'n dywyll ond fel y rhai Sadwrn maen nhw wedi eu cyfansoddi gan ronynnau eithaf mawr, rhai ohonynt yn cyrraedd tryfesur o 10 metr yn ogystal a llwch man. Mae 11 o fodrwyau wedi cael eu darganfod, pob un ohonynt yn llesg; Adnabyddir y fwyaf disglair ohonynt fel y fodrwy Epsilon. Roedd modrwyau Wranws y cyntaf ar ol y rhai
Sadwrn
i gael eu darganfod.
Mae maes magnetig Wranws yn hynod am nad ydy wedi ei ganoli ar ganol y blaned ac mae wedi ei ogwyddo bron a 60 gradd yngl?n ag echel ei chylchdro. Mae'n debyg o gael ei achosi gan symudiadau mewn dyfnderoedd cymharol bas o fewn Wranws.
Darganfuwyd 10
lloeren
fach gan
Voyager 2
. Roedd eisoes 5 lloeren fawr ganddi. Mae'n debyg fod yna rhagor o loerennau o fewn y modrwyau.
Mae gan Wranws 21 o loerennau (neu 'leuadau') sydd wedi cael eu henwi a 6 lloeren heb enw.
Lleuadau gweddol fychan yw'r rhain ? dydy'r mwya ohonynt, Titania, ddim cymaint a hanner maint ein Lleuad ni ac ni fyddai'r cwbwl ohonynt efo'i gilydd ond tri chwarter maint y Lleuad beth bynnag.
Yn wahanol i brif leuadau'r 'hen' blanedau, fe enwyd lleuadau Iwranws ar ol cymeriadau allan o weithiau
Shakespeare
ag
Alexander Pope
, e.e. Miranda, Ariel, Umbriel, Titania ac Oberon ayyb. Ymgais oedd hyn i'w delweddu fel planed 'fodern', gan symud i ffwrdd o'r traddodiad o enwi cyrff gofodol ar ol duwiau ac arwyr y Rhufeiniaid ? sylwer mai Iwranws yw'r unig blaned gafodd ei henwi ar ol duw Groegaidd yn hytrach na Rhufeinig.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i
Twm Elias
ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan
Defnyddiwr:Twm Elias
. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).
Planedau yng Nghysawd yr Haul
|