William Forbes Skene
|
---|
|
Ganwyd
| 7 Mehefin 1809
Rubislaw
|
---|
Bu farw
| 29 Awst 1892
|
---|
Dinasyddiaeth
| Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
|
---|
Alma mater
| - Prifysgol St Andrews
- Edinburgh Academy
|
---|
Galwedigaeth
| hanesydd
|
---|
Tad
| James Skene o Rubislaw
|
---|
Mam
| Jane Forbes
|
---|
Hanesydd a hynafiaethydd o'r
Alban
oedd
William Forbes Skene
(
7 Mehefin
1809
-
29 Awst
1892
).
Roedd yn fab i James Skene (
1775
?
1864
), o
Rubislaw
, ger
Aberdeen
, cyfaill i
Syr Walter Scott
. Addysgwyd ef yn
Academi Caeredin
a
Phrifysgol St Andrews
, gan gymeryd diddordeb arbennig mewn astudio ieithoedd a llenyddiaeth Geltaidd.
Yn
1837
cyhoeddodd
The Highlanders of Scotland, their Origin, History and Antiquities
.
Bu'n gweithio i Lys y Sesiwn, yna yn
1847
, yn ystod newyn yn
Ucheldiroedd yr Alban
, bu'n ysgrifennydd i'r
Central Board for Highland Relief
. Bu farw yng
Nghaeredin
ar
29 Awst
1892.
Ei brif waith oedd
Celtic Scotland, a History of Ancient Alban
(5 cyfrol, Caeredin,
1876
-
1880
). Cyhoeddodd argraffiad o'r
Chronica genus Scotorum
gan
John o Fordun
(Caeredin, 1871?1872);
The Four Ancient Books of Wales
(Caeredin, 1868);
Chronicles of the Picts and Scots
(Caeredin, 1867); y
Vita S. Columbae
gan
Adomnan
(Caeredin, 1874);
Essay on the Coronation
Stone of Scone
(Caeredin, 1869); a
Memorials of the Family of Skene of Skene
(Aberdeen, 1887).
- "Skene, William Forbes."
British Authors of the Nineteenth Century
H. W. Wilson Company, Efrog Newydd, 1936.