Bardd
Cymraeg oedd
William Crwys Williams
(
enw barddol
:
Crwys
) (
4 Ionawr
1875
-
13 Ionawr
1968
). Roedd yn
Archdderwydd
Gorsedd y Beirdd
rhwng
1939
a
1947
.
Brodor o Graig Cefn Parc, ger
Abertawe
oedd Crwys. Roedd yn fab i grydd, ac yn ei d? nid oedd llawer o lyfrau ond y
Beibl
ac ychydig o rai eraill. Ond roedd ewythr Crwys, Ap Llywelyn yn fardd ac yn un a'r gallu i englyna. Ef a fagodd ddiddordeb Crwys mewn barddoniaeth. Cynghaneddwr yn bennaf oedd Ap Llywelyn, ond ei waith crefyddol oedd yn dal sylw Crwys. Ganed mewn t? wrth ymyl Mynydd y Gwair yn
1875
, ond ni arhosodd yno drwy ei oes, yn hytrach, aeth i ffwrdd i'r gogledd am ychydig.
[
angen ffynhonnell
]
Cymerodd ei enw
Crwys
o enw
Capel
yr Annibynwyr, 'Pant y Crwys' yn ei bentref.
Aeth i Ysgol
Rhydaman
lle roedd yn paratoi i ddod yn
weinidog
, byddai'n mynd ar hyd y ffordd i
Landeilo
yn aml iawn i'r ysgol, a mynd heibio i garreg filltir. Yr un yw hwn sydd yn ei gerdd enwog - 'Y Garreg Filltir'.
Aeth o'r ysgol yn Rhydaman i
Goleg Bangor
lle y cyfarfu a'i wraig, Grace Harriet Jones.
Yna symudodd i Frynmawr i weinidogaethu, ond pregethai yn
Saesneg
gan amlaf, ac roedd ei blant hyd yn oed yn siarad Saesneg! Yn ei ol ef, roedd gweld yr iaith Gymraeg yn marw yn yr ardal yn ei dristhau'n arw. Cymharodd ei ardal - Nant y Glo i Nant yr Eira a dywedodd nad oedd y Gymraeg yn medru byw yn y glo, nid fel oedd mewn eira.
Roedd prif dylanwadau Crwys yn cynnwys beirdd fel
Watcyn Wyn
,
John Morris Jones
a
Ceiriog
. Dechreuodd sylwi mwy ar y technegau a ffyrdd o ysgrifennu, ac fe ddaeth ei neges yn gliriach o farddoni mewn arddull delynegol. Un o'i
delynegion
mwyaf enwog yw 'Melin Trefin'.
Enillodd
y goron
dair gwaith yn
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
, ym
1910
(ar '
Ednyfed Fychan
',
1911
('Gwerin Cymru') a
1919
('
Morgan Llwyd
o Wynedd').
Cyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi:
- Cerddi Crwys
(1920)
- Cerddi Newydd Crwys
(1924)
- Trydydd Cerddi Crwys
(1935)
- Cerddi Crwys: y pedwerydd llyfr
(1944)
Ysgrifennodd hunangofiant yn ogystal: