William Abraham
|
---|
|
Ganwyd
| 14 Mehefin 1842
Cwmafan
|
---|
Bu farw
| 14 Mai 1922
Pentre
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Cymru
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
, undebwr llafur, mwynwr
|
---|
Swydd
| Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig
|
---|
Plaid Wleidyddol
| Liberal-Labour,
y Blaid Lafur
|
---|
- Gweler hefyd
Mabon
.
Llywydd cyntaf
Ffederasiwn Glowyr De Cymru
ac
Aelod Seneddol
y
Rhondda
oedd
William Abraham (Mabon)
(
14 Mehefin
1842
-
14 Mai
1922
). Bu'n bleidiol iawn i'r Gymraeg a defnyddiodd hi unwaith yn y
Senedd
, ond chwarddodd pawb ar ei ben; yna dywedodd wrthynt eu bod wedi chwerthin am ben
Gweddi'r Arglwydd
.
[1]
Ymladdodd i gael cytundeb i bennu cyflogau'r glowyr wedi'i sefydlu ar brisiau a phroffidiau'r diwydiant. Hyrwyddodd ddatblygiad undebaeth llafur yng Nghymru.
Ganed ef yng
Nghwmafan
, yn 4ydd mab i Thomas a Mary Abraham. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Cwmafan, gan adael yn ddeg oed, ac yna bu'n gweithio mewn gwaith
alcam
ac fel glowr. Yn y
1860au
bu am gyfnod yn
Tsile
yn gweithio yn y gweithfeydd
copr
yno. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, yn
1870
, etholwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr a bu'n llywydd y glowyr ar y
Joint Sliding Scale Association
o 1875 hyd 1903.
Rhwng 1892 a 1898 byddai'r glowyr yn cael diwrnod o wyliau o'r gwaith ar y dydd Llun cyntaf o bob mis er mwyn cwtogi cynnyrch a sefydlogi cyflogau, a gelwid y diwrnod yma yn "Ddiwrnod Mabon."
[2]
Daeth yn aelod seneddol dros y Rhondda yn 1885, a bu'n cynrychioli Gorllewin Rhondda o 1918 hyd 1922. Hyd at 1906 roedd yn aelod o grwp radical
y Blaid Ryddfrydol
, yna'n ddiweddarach yn aelod o'r
Blaid Lafur
pan ddaeth y blaid honno'n sefydliad annibynnol. Sefydlwyd
Ffederasiwn Glowyr De Cymru
yn 1898, gyda Mabon yn llywydd. Pan oedd yn America gofynnwyd iddo beth oedd ystyr "MP" ar ol ei enw; atebodd "Mae'r llythrennau'n golygu 1. Mabon Pentref 2.
Methodist Preacher 3. Miner's President 4. Member of Parliament 5. Man of Power, more's the pity!"
Roedd hefyd yn gefnogwr brwd o'r
Eisteddfod
, a daeth ei enw barddol "Mabon" yn gysylltiedig a'i enw ac yn llysenw iddo. Daeth yn daeth enwog fel arweinydd effeithiol yn eisteddfodau diwedd y
19g
a dechrau'r
20g
. Roedd ganddo lais tenor clir, a chanai'n aml i'r cynulleidfaoedd.
- Davies, Picton,
Atgofion Dyn Papur Newydd
(Lerpwl, 1902)
- Evans, Eric Wyn,
Mabon (William Abraham, 1842-1922): a study in trade union leadership
(Caerdydd, 1959)