Roedd
Will Joseph
(10 Mai, 1877 - 1959) yn chwaraewr
Rygbi'r undeb
rhyngwladol Cymreig. Roedd yn aelod o dim buddugol Cymru a gurodd y
Crysau Duon
oedd ar daith ym 1905. Chwaraeodd rygbi clwb i Abertawe a rygbi sir i Forgannwg.
Roedd Joseph yn cael ei ystyried yn flaenwr rhagorol i dim Abertawe ar ddechrau'r 20fed ganrif, yn ystod cyfnod rhagorol yn hanes y tim. Cafodd ei gydnabod fel chwaraewr cryf mewn sgrymiau tynn ac oherwydd ei daldra, roedd yn effeithiol iawn yn y llinell.
[1]
[2]
Ganwyd Joseph yn Nhreforys, Abertawe yn blentyn i Griffith Joseph, gweithiwr yn y gwaith tunplat, a Sarah ei wraig. Roedd yn gefnder i'r chwaraewr rhyngwladol
Dicky Owen
. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gem amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel gweithiwr dur. Ym 1906 priododd Elizabeth Davies yn eglwys blwyf Llangyfelach, ni fu iddynt blant.
Bu farw yn Nhreforys yn 82 mlwydd oed.
Gwnaeth Joseph ei ymddangosiad cyntaf dros
Gymru
yn erbyn
Lloegr
yn Blackheath ym 1902 yn 23 oed. Chwaraeodd Joseph mewn tair ymgyrch a enillodd y
Goron Driphlyg
, ond ei foment fwyaf ar y cae oedd pan chwaraeodd yn erbyn y
Crysau Duon
oedd ar daith ym 1905. Dymchwelwyd gyrfa ryngwladol Joseph ym 1906 ar ol gem yn erbyn tim teithiol y
Springboks
. Er ei fod wedi chwarae gyda theilyngdod mawr mewn gem gynharach yn erbyn De Affrica i dim Sir Forgannwg; lle sgoriodd gais,
[3]
gollyngwyd Joseff ar ol y gem ryngwladol. Roedd pac Cymru yn y gem honno yn ofnadwy a phenderfynodd y pwyllgor dethol i newid y pac cyfan, heb ystyried cyfraniad unigolion i'r gem.
[4]
Daeth gyrfa Joseph gyda Chymru i ben ar ol 16 cap yn 28 oed.
-
Lloegr
1902
,
1903
,
1904
,
1905
,
1906
-
Iwerddon
1902, 1903, 1905, 1906
-
Seland Newydd
1905
-
yr Alban
1902, 1903, 1904, 1905, 1906
-
De Affrica
1906
Yn o gystal a bod yn bencampwr rygbi bu Joseph hefyd yn bencampwr wrth chware coets.
[6]
- Parry-Jones, David (1999).
Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby
. Pen-y-bont: seren.
ISBN
1-85411-262-7
.
- Thomas, Wayne (1979).
A Century of Welsh Rugby Players
. Ansells Ltd.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980).
Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union
. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
ISBN
0-7083-0766-3
.
- ↑
Smith (1980), tud 136.
- ↑
Parry-Jones (1999), tud 143.
- ↑
Parry-Jones (1999), tud 183.
- ↑
Thomas (1979), tud 38.
- ↑
Smith (1980), tud 468.
- ↑
"SWANSEA - Evening Express"
. Walter Alfred Pearce. 1903-09-05
. Cyrchwyd
2021-04-11
.