Wicipedia : Eginyn

Oddi ar Wicipedia

Erthygl fer iawn yw eginyn , sydd fel arfer yn cynnwys un paragraff yn unig. Mae awdur eginyn yn ei greu er mwyn ysgogi pobl sydd a diddordeb yn y pwnc, neu sydd a llawer o wybodaeth amdano, i ychwanegu at yr erthygl:


 Mae'r erthygl hon yn Eginyn . Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu .



I weld pa erthyglau sydd angen eu hehangu, gwyliwch y rhestr hon .

Wrth i'r Wicipedia dyfu rydym yn creu categoriau egin mwy penodol ; mae gennym ni gategori ar gyfer eginau am hanes Cymru er enghraifft. I ychwanegu erthygl at y categori eginyn hwnnw, rhowch y nodyn {{eginyn hanes Cymru}} ar ddiwedd yr erthygl. Mae'r nodiadau eginyn hyn ar gael yn barod am nifer o wledydd, e.e. {{eginyn Montenegro}} a sawl pwnc a maes, e.e. {{eginyn athroniaeth}} ac {{eginyn cerddoriaeth}} .

Cewch weld rhestr lawn o'r nodiadau egin ychwanegol hyn yma .

Ond peidiwch a phoeni'n ormodol os nad ydych yn siwr pa nodyn i'w ddefnyddio. Bydd rhywun yn siwr o sylwi ar yr erthygl newydd a'i roi yn y categori egin cywir. Y peth pwysig ydy creu'r erthygl yn y lle cyntaf!

Ewch ati felly!