Ydych chi'n gweld y botwm "
Golygu
"? Gallwch chi gyfrannu a chywiro gwallau yn y mwyafrif o erthyglau drwy glicio "Golygu"! Ewch ati i ychwanegu eich diddordebau neu eich gwybodaeth: fel bod ein plant, ein pobl ifanc ac oedolion yn cael rhodd amhrisiadwy gennych! Yn yr
Adran: Tiwtorial
, ceir dros 20 o fideos Cymraeg cam-wrth-gam yn eich harwain drwy'r sgiliau angenrheidiol.
Beth yw Wicipedia?
Gwyddoniadur
rhydd ydy Wicipedia, a ysgrifennir yn gydweithredol gan
ei ddarllenwyr
. Math arbennig o wefan ydyw, a elwir yn
wici
, sydd wedi ei gynllunio er mwyn sicrhau fod cydweithio'n hawdd. Mae nifer o bobl yn gwella Wicpedia'n barhaus, gan wneud miloedd o newidiadau bob awr. Cofnodir yr holl newidiadau hyn yn
hanes yr erthygl
a
Newidiadau diweddar
. Am fwy o fanylion am y prosiect, gweler
Wicipedia:Yngl?n a Wicipedia
.
Sut alla i gyfrannu?
Peidiwch ag ofni golygu
? gall
unrhyw un
olygu bron unrhyw dudalen, ac fe'ch anogir i
i fod yn ddewr
! Ffeindiwch rywbeth a ellir ei wella - er enghraifft, sillafu, gramadeg, ail-ysgrifennu er mwyn ei wneud yn fwy darllenadwy, neu ddileu golygiadau anadeiladol. Os hoffech ychwanegu ffeithiau newydd, darparwch
ffynonellau
fel y gellir eu
gwirio
, neu awgrymwch hwy ar
dudalen sgwrs
yr erthygl. Gan amlaf, dylid trafod newidiadau ar bynciau dadleuol a phrif dudalennau Wicipedia yn gyntaf.
Cofiwch - ni allwch dorri Wicipedia; gellir gwrthdroi, trwsio neu wella pob golygiad. Felly ewch ati, golygwch erthygl byddwch yn rhan o'r prosiect o wneud Wicipedia yr adnodd gwybodaeth mwyaf defnyddiol ar y we!
Cyfrannwch
? Mae Wicipedia yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ond mae'n dibynnu ar roddion a grantiau er mwyn aros felly. Ystyriwch gyfrannu os gwelwch yn dda, drwy glicio ar y ddolen
Rhoddwch nawr
ar frig y dudalen er mwyn helpu cynnal a datblygu'r safle.
Pam na cheisiwch olygu nawr?
- Cliciwch fan hyn
i olygu'r pwll tywod, sef lle i wneud golygiadau prawf. (Os oes ysgrifen ar y dudalen eisoes, ychwanegwch eich testun ar waelod y dudalen.)
- Teipiwch beth ysgrifen.
- Cliciwch
Dangos rhagolwg
er mwyn gweld eich newidiadau, neu
Cadw'r dudalen
pan rydych yn hapus gyda'r ffordd mae'r dudalen yn edrych.