Traddodiad o
Wica
, sydd yn
grefydd
Neo-baganaidd
, yw
Wica Alecsandraidd
. Sefydlwyd ef gan
Alex Sanders
(a elwir yn "Brenin y Gwrachod" weithiau
[1]
) gyda'i wraig
Maxine Sanders
yn y 1960au yn
y Deyrnas Unedig
. Mae Wica Alecsandraidd yn debyg iawn i
Wica Gardneraidd
, ac ystyrir ef fel y traddodiad mwyaf hysbys yn y grefydd.
[2]
Seilir y traddodiad yn fawr ar
Wica Gardneraidd
, gan y cafodd Sanders hyfforddiant ynddo a hynny i'r Radd Gyntaf.
[3]
Mae hefyd yn cynnwys elfennau o
ddewiniaeth seremoniol
a
Chabbala Hermetig
, a astudiodd Sanders ar ei ben ei hun.
Daeth enw'r traddodiad o enw Alex Sanders ei hun ac o
Lyfrgell Alecsandria
, llyfrgell gyfrin hynafol, a oedd yn un o lyfrgelloedd y byd.
[3]
[4]
Dewiswyd i ddefnyddio enw'r llyfrgell ar ol i Sanders ei gweld fel ymgais cynnar i ddod a gwybodaeth a challineb y byd at ei gilydd mewn un lle.
[5]
Mae Maxine Sanders yn cofio'r cafodd yr enw'i ddewis pan ddechreuodd myfyriwr Sanders,
Stewart Farrar
, ysgrifennu'r llyfr
What Witches Do
. "Gofynnodd Stewart beth ddylai Gwrachod sydd wedi cael eu hynydu i mewn i'n Cwfen alw eu hunain; ar ol peth ddadlau, penderfynodd [Alex] i ddefnyddio "Alecsandraidd", a'r oedd Alex a minnau'n hoffi ef. Cyn hynny, roeddem yn ddigon hapus i gael ein galw'n Wrachod".
[6]
Ymarferir Wica Alecsandraidd y tu allan i'r DU hefyd, gan gynnwys
Canada
ac
Unol Daleithiau America
. Mae
Encyclopedia Mystica
yn dweud "o ganlyniad i gyhoeddusrwydd negyddol Sanders, nid oedd Wica Alecsandraidd yr un mor boblogaidd a Wica Gardneraidd. Ers y 1980au, nid oedd dim cysylltiad a Sanders ei hun gan
gwfenni
Alecsandraidd Americanaidd. Mae cwfenni Alecsandraidd wedi gwneud yn well yng Nghanada lle'r oeddent yn gryf cyn cyhoeddusrwydd negyddol Sanders".
[7]
- ↑
Johns, June (1969).
King of the witches: The world of Alex Sanders
. P. Davies.
ISBN 0-432-07675-1
- ↑
Gweler
Adler, Margot (1979).
Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-Worshippers, and Other Pagans in America Today
. Viking.
ISBN 0-670-28342-8
, a
Farrar, Janet and Stewart, Bone, Gavin (1995).
The Pagan Path
. Phoenix Publishing.
ISBN 0-919345-40-9
, ymysg eraill.
- ↑
3.0
3.1
Rabinovitch, Shelley and Lewis, James R..
The Encyclopedia of Modern Witchcraft and Neo-Paganism
.
ISBN 0-8065-2407-3
.
URL
- ↑
"copi archif"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2007-03-10
. Cyrchwyd
18 Mawrth
2007
.
- ↑
"copi archif"
.
Gay Pagans, Gay Witches...?
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2008-02-29
. Cyrchwyd
11 December
2005
.
- ↑
"copi archif"
.
The Wiccan/Pagan Times
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2014-08-16
. Cyrchwyd
11 December
2005
.
- ↑
Encyclopedia Mystica
http://www.meta-religion.com/Spiritualism/Wicca/alexandrian_wicca.htm
. Cyrchwyd
11 December
2005
.