Waunarlwydd

Oddi ar Wicipedia
Waunarlwydd
Math pentref   Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Abertawe   Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru  Cymru
Cyfesurynnau 51.6401°N 4.0205°W  Edit this on Wikidata
Cod SYG W04001037  Edit this on Wikidata
Cod OS SS598956  Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Mike Hedges ( Llafur )
AS/au Carolyn Harris ( Llafur )
Map

Pentref yng nghymuned Y Cocyd , mwrdeisdref sirol Abertawe , Cymru , ydy Waunarlwydd [1] [2] (amrywiolyn lleol o'r gair arglwydd yw arlwydd ).

Trafnidiaeth [ golygu | golygu cod ]

Darperir bysiau gan First Cymru: sef rhifau 15 neu 16 Abertawe - Waunarlwydd ac Abertawe - Gorseinon .

Y brif ffordd i fewn ac allan o'r pentref yw'r B4295. Y cyffordd agosaf ar yr M4 yw cyffordd 47 Gorllewin Abertawe (Penllergaer).

Yn wreiddiol, y brif ffordd o Abertawe oedd Heol Waunarlwydd, sydd yn dechrau y tu allan i dafarn y Cockett Inn ar Heol Coced (A4216). Mae'r ffordd yn arwain at y man lle mae Heol Cwmbach a Heol Abertawe yn cyfuno y tu allan i dafarn Lamb & Flag.

Er bod Rheilffordd Gorllewin Cymru yn rhedeg trwy'r pentref, nid oes gorsaf reilffordd yma: yr agosaf yw Gorsaf reilffordd Tre-G?yr .

Economi [ golygu | golygu cod ]

Roedd Waunarlwydd yn gartref i safle gwneud alwminiwm a berchnogwyd gan gwmni o'r UD, Alcoa. Cyhoeddodd Alcoa ym mis Tachwedd 2006 y byddai'n cau'r safle erbyn diwedd mis Mawrth 2007, a 298 o bobl wedi colli eu swyddi. Bu gwaith datgomisiynu yn dilyn hyn. [3]

Bellach, TIMET, cyflenwr mwyaf y byd o fetelau titaniwm, yw prif gyflogwr y pentref, gyda'r felin yn un o bedwar lleoliad o fewn Ewrop.

Mae 3 cartref nyrsio: Ashgrove House, T? Waunarlwydd a Th? Victoria.

Mae dwy dafarn yn y pentref, y Masons Arms a'r Farmers Arms, a'r ddwy wedi'u lleoli ar Heol Abertawe. Lleolir y clwb rygbi ar Heol Roseland. Caewyd hen dafarn y Village Inn ond cafodd ei thrawsnewid yn fwyty Grill House.

Ysgolion [ golygu | golygu cod ]

Mae dwy ysgol gynradd yn y pentref: un cyfrwng Saesneg o'r enw Ysgol Gynradd Waunarlwydd, ac mae hon wedi'i lleoli ar Heol Brithwen ac wedi disodli'r ysgol wreiddiol ar Heol Abertawe. Ysgol Gymraeg yw Ysgol Gynradd Gymraeg Y Login Fach, ac wedi'i lleoli ar Heol Roseland.

Ar ol gadael yr ysgol gynradd, mae'r plant naill ai yn mynychu Ysgol Gyfun G?yr neu Ysgol Gyfun Tre-G?yr.

Crefydd [ golygu | golygu cod ]

Yr eglwys Anglicanaidd yn y pentref yw St Barnabas ar Heol Victoria.

Erbyn hyn dim ond 2 gapel, Seion (capel Fedyddwyr) a Sardis (capel yr Annibynwyr Cymraeg) a'r ddau wedi'u lleoli ar Heol Abertawe. Mae Bethany (capel Bedyddwyr Saesneg) ar Heol Bryn bellach wedi cau ac mae'r tir wedi'i werthu.

Mae Eglwys Bedyddwyr Seion yn cwrdd am 10:30 ar fore Sul ar gyfer gwasanaeth dwyieithog ac ysgol Sul. Mae Seion hefyd yn rhedeg clwb plant Cymraeg a gr?p ieuenctid Cymraeg ar ddydd Mercher am 3:20 pm a 5pm.

Cyfeiriadau beiblaidd priodol:

Chwaraeon [ golygu | golygu cod ]

  • Rygbi: Ar hyn o bryd mae Clwb Rygbi Waunarlwydd yn chwarae yng Nghynghrair 1 Canolbarth WRU ac mae ganddyn nhw 3 cae chwarae
  • Pel-droed: Mae gan Waunarlwydd Galaxy dimau h?n ac iau sy'n cystadlu yng Nghynghrair H?n Abertawe yn system cynghrair pel-droed Cymru ac mae ganddyn nhw 2 gae chwarae
  • Dartiau: mae yna dimau yn y Farmers Arms a'r Masons Arms, ac mae yna dim anabl sy'n chwarae yn y Masons Arms o dan arweiniad Mark Lyons.
  • P?l: dim ond un tim p?l sydd yn y pentref sy'n chwarae yn y Masons Arms. Y capten Daniel Penhorwood wedi bod yn “Bencampwr G?yr” 6 gwaith a'r chwaraewr gorau yn ystadegol sydd wedi hannu o ardal Y G?yr. Ef oedd yr unig berson mewn 20 mlynedd i gyrraedd rowndiau cynderfynol Cynghrair P?l Y G?yr, ers Syr. Ashley Jones, a record o ennill 78, 0 gem gyfartal a 3 cholled ers 2012.
  • Arall: cynhelir chwaraeon, dosbarthiadau a bingo dan do amrywiol yn y Ganolfan Gymunedol ar Ffordd Victoria.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru" . Llywodraeth Cymru . 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names ; adalwyd 23 Hydref 2021
  3. "298 jobs to go as factory shuts" (yn Saesneg). 2006-11-21 . Cyrchwyd 2021-10-12 .

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]