한국   대만   중국   일본 
Wicidata - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Wicidata

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o WDQ (identifier) )
Wicidata
Wikidata
Logo Wicidata
Hafan Wicidata
URL www.wikidata.org
Masnachol? Nag ydy
Ieithoedd Amlieithog
Perchennog Wikimedia Foundation
Crewyd gan Cymuned Wicifryngau
Laniswyd 30 Hydref 2012  ( 2012-10-30 )

Prosiect cydweithredol, byd-eang ydy Wicidata gan gymuned Wicimedia (neu Wicifryngau ); fe'i bwriedir i ganoli data ar gyfer prosiectau megis Wicipedia , [1] fel a wneir gyda Comin Wicimedia . Mae'r cynnwys, fel gyda gweddill y teulu "Wici" wedi'i drwyddedu ar ffurf cynnwys rhydd, agored tebyg i'r CC-BY-SA a ddefnyddir ar y wici hwn.

Y defnydd ar y Wicipedia Cymraeg [ golygu | golygu cod ]

Cafodd ei lansio ar 30 Hydref 2012 ac ar 21 Chwefror y flwyddyn ganlynol fe'i gwelwyd oddi fewn i'r Wicipedia Cymraeg pan ddechreuwyd canoli'r dolennau ieithoedd. Y bwriad gwreiddiol oedd cadw data ffeithiol nad yw'n newid (e.e. hyd afon neu ddyddiad geni) yn ganolog, gyda'r wybodaeth honno'n cael ei galw'n otomatig i wybodlenni a phrosiectau eraill Wicimedia.

Ar 19 Tachwedd 2015, ychwanegwyd rhestr o baentiadau ar y ddalen Rhestr o luniau gan Jacob van Ruisdael , a oedd yn defnyddio'r "Nodyn:Wikidata list" i alw'r data o gronfa ddata Wicidata i'r dudalen ar Wicipedia. Ym Mehefin 2016 crewyd rhestr o eglwysi a enwyd ar ol Beuno , ac erbyn Hydref y flwyddyn honno crewyd 9,500 o restri Wicidata ar adar gyda phob un ohonynt hefyd yn tynnu llif i'r wybodlen drwy ddefnyddio'r Nodyn:Blwch tacson. Yng Ngorffennaf 2016 galluogwyd Gwybodlen gyfan a oedd yn tynnu data o Wicidata: Telesgop Pegwn y De . Erbyn Rhagfyr 2016 roedd gan cy-wici dair gwaith mwy o restri Wicidata na phob Wicipedia arall (dros 290 o ieithoedd) gyda'i gilydd 17,100) a phob un o'r rhain yn tynnu llif otomatig o Wicidata.

Gwybodlenni [ golygu | golygu cod ]

Ceir Categori o ddynodwyr (neu 'codau-Q') sydd heb gyfieithiad yn Categori:Tudalennau gydag elfennau o WD heb eu cyfieithu .

Rhoddwyd y canlynol:

Geirfa perthnasol

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Cymorth:Wicidata - geirfa

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "Data Revolution for Wikipedia" . Wikimedia Deutschland. March 30, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-11 . Cyrchwyd September 11, 2012 . Unknown parameter |deadurl= ignored ( help )