Dramodydd ac awdur o Gymro oedd
William Samuel Jones
, a ysgrifennodd dan y ffugenw
W.S. Jones
neu
Wil Sam
(
28 Mai
1920
?
15 Tachwedd
2007
). Roedd yn fwyaf adnabyddus fel creawdwr
Ifas y Tryc
.
Ganed ef yn
Llanystumdwy
, a bu'n byw yn
Eifionydd
ar hyd ei oes. Bu’n gweithio fel peiriannydd cyn agor modurdy ei hun yn Llanystumdwy. Gwerthodd y modurdy yn 1960 er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu. Dechreuodd ysgrifennu yn ddyn ifanc, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd ddramau i’w perfformio yn Theatr y Gegin,
Cricieth
. Pan ddaeth Theatr y Gegin i ben ym
1976
, dechreuodd ysgrifennu ar gyfer radio a theledu, a chyn hir daeth yn awdur llawn amser. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol fel creawdwr Ifans y Tryc, a chwaraeid gan yr actor
Stewart Jones
.
[1]
Yn 1953 priododd Dora Ann Jones (16 Mawrth 1928 - 29 Mawrth 2023)
[2]
a mynd i fyw i'r Crown (hen dafarn gynt). Cawsant ddwy ferch, Mair ac Elin.
[3]
Bu farw Wil Sam yn 87 oed ym Mangor. Cafwyd Gwasanaeth Coffa yng nghapel Moreia, Llanystumdwy ac fe'i gladdwyd ym Mynwent Newydd Llanystumdwy ar 21 Tachwedd.
[4]
- W. S. Jones,
Wil Sam
, gol. Gwenno Hywyn, Cyfres y Cewri 5 (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1985)