W. F. Grimes
|
---|
Ganwyd
| 31 Hydref 1905
Penfro
|
---|
Bu farw
| 25 Rhagfyr 1988
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Cymru
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| archeolegydd, archaeolegydd cynhanes
|
---|
Swydd
| cyfarwyddwr
|
---|
Cyflogwr
| |
---|
Gwobr/au
| CBE
|
---|
Archaeolegydd
o Gymru oedd yr Athro
William Francis Grimes
(
31 Hydref
1905
?
25 Rhagfyr
1988
), a gyhoeddai wrth yr enw
W. F. Grimes
. Ei brif feysydd oedd archaeoleg
Llundain
a
chynhanes Cymru
. Roedd yn frodor o
Sir Benfro
.
Cafodd ei addysg brifysgol ym
Mhrifysgol Cymru
. Bu'n Geidwad Cynorthwyol Adran Archaeoleg
Amgueddfa Genedlaethol Cymru
,
Caerdydd
, o 1926 hyd 1938. Bu'n llywydd
Cymdeithas Archaeolegol y Cambrian
, cadeirydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion yng Nghymru ac ymgymerodd hefyd a sawl post cyhoeddus arall ym maes archaeoleg.
Yn ystod y 1950au a'r 1960au cloddiodd sawl gwaith yn Llundain yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwr
Amgueddfa Llundain
a'r
Astudfa Archaeoleg
, y sefydliad o fewn
Prifysgol Llundain
a sefydlwyd gan Syr
Mortimer Wheeler
yn 1937. Bu'n athro archaeoleg yno hyd ei ymddeol yn 1973.
Un o ddarganfyddiadau pwysicaf Grimes oedd
Mithraeum
Llundain yn 1954,
teml
Rufeinig
yn gysegredig i'r duw
Mithras
. Enghraifft gynnar o archaeoleg achub oedd hyn, gan fod y safle, a fomiywd yn y rhyfel, yn cael ei datblygu.
- Grimes, W. F.,
The Megalithic Monuments of Wales
(1936)
- ??,
The Prehistory of Wales
(1951)
- ??, 'Excavations in the City of London', yn Bruce-Mitford R.L.S. (gol.)
Recent Archaeological Excavations in Britain
(Llundain, 1956).