Vladimir Tatlin

Oddi ar Wicipedia
Vladimir Tatlin
Ganwyd 16 Rhagfyr 1885 (yn y Calendr Iwliaidd Edit this on Wikidata
Kharkiv   Edit this on Wikidata
Bu farw 31 Mai 1953  Edit this on Wikidata
o clefyd heintus   Edit this on Wikidata
Moscfa   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Ymerodraeth Rwsia , Yr Undeb Sofietaidd   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Penza Art School  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth arlunydd, pensaer , cerflunydd, academydd, darlunydd , cynllunydd llwyfan, cynllunydd, gwneuthurwr printiau, artist cydosodiad, gludweithiwr, drafftsmon  Edit this on Wikidata
Adnabyddus am T?r Tatlin   Edit this on Wikidata
Arddull architectural view, figure, noethlun, portread , bywyd llonydd  Edit this on Wikidata
Mudiad Adeileddiaeth   Edit this on Wikidata
Plant Anatoly Romov  Edit this on Wikidata

Roedd Vladimir Yevgraphovich Tatlin ( Rwsieg : Влади?мир Евгра?фович Та?тлин ; ( 28 Rhagfyr 1885 ? 31 Mai 1953 ) [1] yn arlunydd a phensaer o Ymerodraeth Rwsia / Undeb Sofietaidd . Gyda Kazimir Malevich roedd yn un o’r ddau berson pwysicaf yn y mudiad celfyddydol avant garde yn Rwsia yn y 1920au. Yn ddiweddarach fe ddaeth yn amlwg yn y mudiad celf Lluniadaeth, (Constructivism) .

Cofir Taltin yn bennaf am D?r Tatlin , neu'r prosiect ar gyfer y Gofeb i'r Drydedd Rhyngwladol (1919?20) [2] , oedd yn gynllun i godi t?r anferthol na chafodd erioed mo'i adeiladu [3] . Bwriad Tatlin oedd codi’r t?r ym Mhetrograd ( St. Petersburg yn awr) yn dilyn y Chwyldro Bolsieficaidd ym 1917, fel pencadlys i'r mudiad comiwnyddol y Comintern (y Drydedd Rhyngwladol).

Bywyd a gwaith [ golygu | golygu cod ]

Ganwyd Tatlin yn Kharkov (dwyrain Wcrain yn yr hen Ymerodraeth Rwseg, [4] yn fab i beiriannydd rheilffordd a bardd. Dechreuodd ei yrfa gelfyddydol fel peintiwr iconau ym Moscow ac fe fynychodd Ysgol Peintio, Cerfluniaeth a Phensaerniaeth Moscow. Roedd hefyd yn gerddor proffesiynol ac fe berfformiodd dramor.

Fe ddaeth yn enwog am T?r Tatlin ei gynlluniau i adeiladu t?r anferthol i goffau’r Chwyldro Bolsieficaid ac fel pencadlys i'r mudiad comiwnyddol y Comintern (y Drydedd Rhyngwladol). Ni chafodd y t?r ei godi a hyd yn oed petai'r cyflenwad enfawr o ddur wedi bod ar gael yn Rwsia ar y pryd; (roedd y wlad yn dioddef argyfwng economaidd, prinder adnoddau sylfaenol a helyntion gwleidyddol) ac mae amheuaeth ddifrifol a oedd yr adeilad yn ymarferol o gwbl [5] .

Roedd y t?r i fod yn steil lluniadaeth (constructivist) i'w adeiladu o ddefnyddiau diwydiannol: haearn, gwydr a dur. Yn ei ddefnyddiau, siap a'i ddefnydd, roedd i fod yn symbol blaenllaw o fodernedd ac yn llawer uwch na Th?r Eiffel ym Mharis . Prif ffurf y t?r oedd troell dwbwl oedd i godi hyd at 400 medr o uchder [6] oedd i gludo'r ymwelwyr gyda chymorth amryw o ddyfeisiadau mecanyddol. Y prif fframwaith oedd gynnwys pedwar strwythur geometreg - ciwb, pyramid a silindr. Y bwriad oedd i'r strwythurau hyn troi ar wahanol raddfeydd o gyflymdra. Y ciwb i droi’n gylch cyfan mewn blwyddyn gron, y pyramid i droi’n gylch cyfan mewn mis a’r silindr unwaith y diwrnod.

Tatlin: Hunanbortread, 1911
Model o'i Gofeb i'r Drydedd Rhyngwladol - T?r Tatlin , 1919.

Mae Tatlin hefyd yn cael ei gysylltu gyda chelfyddyd lluniadaeth wedi Chwyldro Rwsia gyda'i waith gwrth-gerfwedd (counter-relief) , tri dimensiwn a wnaethpwyd o goed a dur. [7]

Creodd Tatlin y cerfluniau yma i gwestiynu syniadau traddodiadol celf, ni ystyriodd ei hun fel lluniadaethwr (constructivist) fel y cyfryw a gwrthwynebodd lawer o syniadau'r mudiad. Roedd lluniadaethwyr amlwg diweddarach yn cynnwys Varvara Stepanova , Alexander Rodchenko , Manuel Rendon Seminario , Joaquin Torres Garcia , Laszlo Moholy-Nagy , Antoine Pevsner a Naum Gabo .

Er yn gyd-weithwyr ar y dechrau, cafodd Tatlin a Malevich ddadleuon ffyrnig ar adeg yr Arddangosfa 0.10 ym 1915 (ymhell cyn genedigaeth lluniadaeth) dros waith suprematist a arddangoswyd gan Malevich.

Claddwyd Tatlin ym mynwent Novodevichy, Moscow.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Lynton, Norbert (2009). Tatlin's Tower: Monument to Revolution . New Haven: Yale University Press. t. 1. ISBN   0300111304 .
  2. Honour, H. and Fleming, J. (2009) A World History of Art . 7th edn. London: Laurence King Publishing, tud. 819. ISBN 9781856695848
  3. Janson, H.W. (1995) History of Art . 5ed rhifyn. Revised and expanded by Anthony F. Janson . Llundain: Thames & Hudson , tud. 820. ISBN 0500237018
  4. Lynton 2009 1",
  5. Gray1986
  6. Ching, Francis D.K., et al. (2011). Global History of Architecture . Ail rifyn. Hoboken, NJ: John Wiley & Sons, Inc., tud. 716.
  7. Tatlin, Vladimir Evgrafovich: Counter-relief (Material Assortment). The State Tretyakov Gallery , 2013. Adalwyd 10 Mai 2013.