Victoria Azarenka
|
---|
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/db/Victoria_Azarenka_%282023_DC_Open%29_31_%28cropped%29.jpg/220px-Victoria_Azarenka_%282023_DC_Open%29_31_%28cropped%29.jpg) |
Ganwyd
| 31 Gorffennaf 1989
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Minsk
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Man preswyl
| Monte-Carlo
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Dinasyddiaeth
| Belarws
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Galwedigaeth
| chwaraewr tenis
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Taldra
| 183 centimetr
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Pwysau
| 70 cilogram
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Partner
| Sergei Bubka
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwobr/au
| Honored Master of Sports of the Republic of Belarus, Order of Honor
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Chwaraeon
|
---|
Tim/au
| Belarus Billie Jean King Cup team
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwlad chwaraeon
| Belarws
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Chwaraewraig
tenis
o
Felarws
yw
Victoria Fyodorovna Azarenka
(
Belarwseg
: В?кторыя Фёдара?на Азаранка; ganwyd
31 Gorffennaf
1989
). Hi yw'r unig chwaraewr neu chwaraewraig tenis o Felarws i ennill un o gystadlaethau senglau'r
Gamp Lawn
, a hynny ym
Mhencampwriaeth Agored Awstralia
yn 2012 a 2013.
Ganwyd ym
Minsk
yn
yr Undeb Sofietaidd
. Dechreuodd chwarae tenis yn 7 oed. Dechreuodd chwarae'n broffesiynol ar Gylchdaith yr
ITF
yn 2003, a symudodd i
Scottsdale, Arizona
, i gael ei hyfforddi. Cafodd ei dewis i chwarae ar dim Belarws yng
Nghwpan y Ffed
yn 2005 (ac eto yn 2007, 2009?11, a 2015). Cyrhaeddodd rhestr y 100 uchaf yn nhymor 2006, y 30 uchaf yn 2007, a'r 20 uchaf yn 2008. Enillodd y gystadleuaeth parau cymysg gyda Max Mirnyi ym
Mhencampwriaeth Agored UDA
yn 2007, a chyda Bob Bryan yn
Roland Garros
yn 2008. Enillodd gystadlaethau
Brisbane
,
Memphis
a
Miami
yn 2009, gan orffen y tymor ar safle 7 yn y byd. Enillodd yn
Stanford
a
Moscfa
yn 2010, a Miami,
Marbella
a
Lwcsembwrg
yn 2011 gan gyrraedd safle 3 ar ddiwedd y tymor hwnnw.
Enillodd Bencampwriaeth Agored Awstralia yn Ionawr 2012, gan neidio o safle 3 i 1.
[1]
Yn ogystal a chipio'i thlws gyntaf o'r Gamp Lawn, enillodd yn
Sydney
,
Doha
,
Indian Wells
,
Beijing
a
Linz
y flwyddyn honno. Enillodd Bencapwriaeth Agored Awstralia eilwaith,
[2]
a hefyd twrnameintiau Doha a
Cincinnati
, yn 2013. Cyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth Agored UDA yn 2012 a 2013, a rowndiau cynderfynol
Wimbledon
yn 2011 a 2012 a Roland Garros yn 2013. Yng
Ngemau Olympaidd yr Haf 2012
enillodd fedal efydd yng nghystadleuaeth senglau'r menywod a'r fedal aur, gyda Max Mirnyi, yng nghystadleuaeth y parau cymysg.
Cafodd ei tharo gan anafiadau yn ystod tymor 2014, a ni enillodd unrhyw gystadlaethau'r flwyddyn honno, nac ychwaith yn 2015. Syrthiodd i safle 32 ar ddiwedd 2014, ond dringodd yn ol i 22 flwyddyn yn ddiweddarach. Dechreuodd wella'i chwarae tua diwedd y tymor wrth iddi gyrraedd y rownd gogynderfynol ym Mhencampwriaeth Agored UDA.
[3]
Wedi iddi ennill yn Brisbane, Indian Wells a Miami ar ddechrau 2016,
[4]
cyrhaeddodd safle 6 yn y byd. Cafodd ei tharo gan anafiadau i'w chefn a'i phen-glin yng nghanol y tymor, ac o ganlyniad gadawodd ei gornest gyntaf yn Roland Garros a ni chystadleuodd yn Wimbledon.
[5]
Ym mis Gorffennaf 2016 cyhoeddodd ei bod yn feichiog ac felly am gymryd saib yn ei gyrfa nes ar ol yr enedigaeth.
[6]
Mae Azarenka'n chwarae gyda'i llaw dde, ac yn hoff o ddefnyddio
trawiad gwrthlaw
deulaw. Mae'n tueddu i aros ar y
llinell fas
a chwarae
rali
gyflym.
[7]
Chwaraeir orau ar
gyrtiau caled
a
chlai
.
[8]
Comin Wikimedia