Veracruz
|
|
Math
| dinas
, dinas a phorthladd, dinas fawr, ardal poblog Mecsico
|
---|
VeracruzPronunciation.ogg
|
Poblogaeth
| 428,323
|
---|
Sefydlwyd
| - 1519
|
---|
Gefeilldref/i
| Miami-Dade County
,
San Jose, Califfornia
,
Cadiz
,
Tampa
,
Valencia
,
Santos
,
San Francisco de Campeche
,
Uvieu
, Xalapa,
Mobile, Alabama
,
Laredo, Texas
, Callao, Quetzaltenango
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Sir
| Veracruz municipality
|
---|
Gwlad
|
Mecsico
|
---|
Arwynebedd
| 78.815 km²
|
---|
Uwch y mor
| 10 ±1 metr
|
---|
Cyfesurynnau
| 19.1903°N 96.1533°W
|
---|
Cod post
| 91690?91969
|
---|
|
Sefydlwydwyd gan
| Hernando Cortes
|
---|
|
|
Dinas a phorthladd yn ne-ddwyrain
Mecsico
yw
Veracruz
, enw llawn
Cuatro Veces Heroica Ciudad y Puerto de Veracruz
. Hi yw porthladd mwyaf Mecsico a dinas fwyaf
talaith Veracruz
, ond nid hi yw prifddinas y dalaith. Roedd y boblogaeth yn
2005
yn 573,854.
Saif y ddinas ar arfordir
Gwlff Mecsico
. Fe'i sefydlwyd yn
1519
gan
Hernan Cortes
, y sefydliad Ewropeaidd cyntaf ar dir mawr cyfandir America. Rhoddodd Cortes yr enw
La Villa Rica de la Vera Cruz
("Tref gyfoethog y Wir Groes") arni. Daeth yn borthladd pwysicaf
Sbaen Newydd
.
Oherwydd pwysigrwydd strategol y porthladd, bu llawer o ymladd yma. Gyrrwyd y Sbaenwyr o'r ddinas yn
1815
. Yn
1838
, meddiannwyd y ddinasgan lynges
Ffrainc
, ac yn
1847
gan yr
Unol Daleithiau
. Yn
1861
fe'i meddiannwyd gan y Ffrancwyr, Sbaenwyr a Phrydeinwyr, ac yn
1914
gan yr Unol Daleithiau eto.