한국   대만   중국   일본 
Adran Premier - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Adran Premier

Oddi ar Wicipedia
Adran Premier
Gwlad   Cymru
Cydffederasiwn UEFA
Sefydlwyd 2009 (2021 ar ei newydd wedd)
Nifer o dimau 8
Lefel ar byramid 1
Disgyn i Adran y De / Adran y Gogledd
Cwpanau Cwpan CBD Merched Cymru
Cwpanau cynghrair Tlws Adran (tlws Cwpan Cynghreiriau Adran)
Cwpanau rhyngwladol Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA
Gwefan Gwefan swyddogol
6 Medi 2012 - Lansiad Uwch Gynghrair Pel-droed Merched Cymru yn y Senedd

Adran Premier yw'r gynghrair pel-droed merched lefel uchaf yng Nghymru a gymerodd le Uwch Gynghrair Merched Cymru yn dilyn adrefnu ar ddechrau tymor 2021/22. [1]

Fe’i gweinyddir gan Gymdeithas Bel-droed Cymru a chafodd ei sefydlu yn 2009, fel Cynghrair Merched Cymru , a hi yw’r gynghrair bel-droed gyntaf i ferched yng Nghymru. Mae'r enillydd yn gymwys i gael lle yng Nghynghrair y Pencampwyr Merched UEFA .

Cyhoeddwyd newid i enw swyddogol y gynghrair ar gyfer tymor 2021-22 sef, Genero Adran Leagues (gan arddel y gair Cymraeg adran yn y fersiwn Saesneg o'r Gynghrair hefyd). Dyma'r Gynghrair merched gyntaf ym Mhrydain a dim ond y 3ydd yn Ewrop i ollwng y gair 'merched' o deitl y gyngrair er mwyn normaleiddio a rhoi statws i bel-droed merched. [2] Dywedodd Lowri Roberts, Pennaeth Pel-droed Menywod CBD Cymru, "'da chi ddim yn rhoi'r enw 'dynion' ar y Cymru Premier ... pam sydd angen i roi'r enw 'merched' ynddo fo? Achos,ar ddiwedd y dydd, dim ond pel-droed yw e" [3]

Mewn blynyddoedd blaenorol anfonwyd enillydd y cwpan cenedlaethol i gystadleuaeth Ewropeaidd.

Fformat y gystadleuaeth [ golygu | golygu cod ]

Pencampwyr y gynghrair fydd y clwb sydd a'r nifer uchaf o bwyntiau ar ddiwedd y tymor. Os bydd gan ddau glwb neu fwy yr un nifer o bwyntiau, bydd enillwyr y gynghrair yn cael eu penderfynu yn ol y gwahaniaeth goliau. Os bydd gan fwy un clwb yr un gwahaniaeth goliau, y clwb sydd wedi sgorio'r nifer uchaf o goliau fydd y pencampwyr. [4] Mae'r gymdeithas hefyd wedi creu strwythur cynghreiriau o dan 19 oherwydd y teimlad bod 'na "ormod o jymp" rhwng y ddau safon yn ol Lowri Roberts ac eisiau "cadw merched yn y gem". [5]

Strwythyr newydd o 2021/22 [ golygu | golygu cod ]

Gyda'r strwythur newydd a gyflwynwyd yn 2021-22 crewyd 5 Adran sef: [6]

  • Adran Premier - yr hen uwch gynghrair a'r unig adran genedlaethol, i gynnwys 8 tim gydag 1 yn disgyn i naill ai Adran North neu Adran South gan ddibynnu ar y lleoliad daearyddol
  • Adran North
  • Adran South
  • Adran North Dan 19
  • Adran South Dan 19

Tlws Adran - Cwpan [ golygu | golygu cod ]

Cynhelir Cwpan aelodau Cynghreiriau Adran (Permier, De a Gogledd) yn flynyddol. Ail-frandwyd yr enw o Cwpan Uwch Gynghrair Cymru ('Welsh Premier League Cup') i Tlws Adran ('Adran Trophy') yn 2021.

Strwythur y Gynrhair - Disgyn ac esgyn [ golygu | golygu cod ]

Yn Adran Premier bydd wyth tim Adran Premier yn chwarae gartref ac oddi cartref ar ffurf twrnamaint gron . Ar ol y 14 gem hyn, mae'r pedwar clwb gorau wedyn yn chwarae yn erbyn ei gilydd a'r un peth i'r pedwar clwb isaf, gartref ac oddi cartref. Bydd pencampwr Premier Adran yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA .

Bydd y tim sy'n gorffen yn 8fed yn disgyn i Adran De neu Adran Gogledd. Bydd wyth tim Adran y De ac Adran y Gogledd yn chwarae gartref ac oddi cartref. Bydd enillwyr y Gogledd a'r De yn cystadlu mewn gem ail gyfle, gyda'r enillydd yn cael ei ddyrchafu i Adran Premier. [7]

Cyflwynwyd y gynghrair dan 19 i bontio'r bwlch rhwng pel-droed ieuenctid a h?n gyda dros 20 o dimau newydd sbon ledled Cymru., Gyda chlybiau'n defnyddio eu tim dan 19 fel offeryn datblygu allweddol ar gyfer chwaraewyr sy'n symud ymlaen i'w tim h?n. Bydd enillwyr y Gogledd a’r De yn chwarae yn erbyn ei gilydd i gael eu coroni’n bencampwr cenedlaethol dan 19 oed.

Timau Adran Premier tymor 2021/2022 [ golygu | golygu cod ]

Met Caerdydd , Dinas Caerdydd , Dinas Abertawe , Tref Port Talbot , Seintiau Newydd , Pontypridd a Barri Unedig , a Tref Aberystwyth .

Newid a Buddsoddi [ golygu | golygu cod ]

Cyhoeddwyd yn 2018 y bydd buddsoddi yn y gem merched yng Nghymru gan ganolbwyntio ar ardal Casnewydd ac Wrecsam a chynyddu nifer y merched sydd wedi eu cofrestru i chwarae pel-droed o 6,500 i 20,00 erbyn 2024. [8]

Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd Cymdeithas Bel-droed Cymru y byddant yn cyflwyno newidiadau i'r strwythur "fydd addas yn "economaidd a daearyddol" ar gyfer datblygiad y gem yng Nghymru". [9] Esboniodd Lowri Roberts, Pennaeth Pel-droed Merched CBDC. [10] Gwelwyd y newidiadau hynny ar gyfer tymor 2021-22. [11]

Chwarae yn Ewrop [ golygu | golygu cod ]

Bydd UEFA yn rhoi lleoedd Ewropeaidd i glybiau Cymdeithas Bel-droed Cymru , a bennir gan safle Cymru yn safleoedd cyfernod gwlad UEFA ("coefficient rankings"). Mae Cymdeithas Bel-droed Cymru yn ei dro yn dyrannu nifer o'r lleoedd Ewropeaidd hyn i swyddi olaf Uwch Gynghrair Merched Cymru. Ar ddiwedd tymor 2018?19, roedd Cymru yn safle 39 yn Ewrop - gan roi ochr sengl iddynt yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA .

Yn nhymor 2018?19, enillodd y tim sydd yn y safle uchaf yng Nghynghrair Merched Premier Cymru gymhwyster i rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr. [12]

Hanes [ golygu | golygu cod ]

Chwaraewyd gem gyntaf erioed y Gynghrair genedlaethol gyntaf ar nos Wener 24 Medi 2009 rhwng C.P.D.M. Aberystwyth yng Nghoedlan y Parc yn erbyn Llanidloes o flaen torf o bron i 400. Enillodd Aberystwyth y gem, 2 - 0. Y person gyntaf i sgorio yn y Gynghrair oedd chwareuwraig Aberystyth, Sam Gaunt, a'r ail oedd Leanne Bray. Y person gyntaf i dderbyn carden felen oedd, Lucy Hughes (Walker bellach), merch Ray Hughes, un o syfaenwyr a rheolwr C.P.D. Merched Tref Aberystwyth . [13]

Yn ei dri thymor cyntaf, rhannwyd y gynghrair yn ddwy Adran gydag enillydd y ddwy adran yn cystadlu mewn gem rownd derfynol i ennill y bencampwriaeth. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn y tymor cyntaf, o dymor 2010-11 ymlaen, cafodd y tim a osodwyd ddiwethaf ym mhob cynhadledd ei israddio. [14]

Ers 2012?13 mae'r gynghrair yn cael ei chwarae mewn un adran yn unig. Yn 2015-16, cafodd dau dim eu hisraddio. Yr wyth clwb a ffurfiodd y Gynghrair oedd Tref Aberystwyth , Tref Caernarfon , Llanidloes , Manorbier, Castellnewydd Emlyn, Dinas Abertawe , Athrofa Caerdydd (bellach Met Caerdydd ) a Wrecsam .

Yn 2021-22 ailstrwythurwyd ac ailfrandwyd yr Uwch Gynghrair a strwythur pel-droed merched Cymru unwaith eto. Brandwyd yr Uwch Gynghrair yn Genero Adran Premier (Genero ar ol y noddwyr). Darlledwyd gem, Met Caerdydd a Dinas Abertawe yn fyw ar 5 Medi 2021.

Nawdd [ golygu | golygu cod ]

Noddwyd y Gynghrair ers 2016 gan gwmni cysylltiadau cyhoeddus Orchard a leolir yng Nghaerdydd. [15] Ar gyfer tymor 2021-22 ac am ddwy flynedd ac yn rhan o'r brandio newydd ar gyfer Adran Leagues (sy'n hepgor y gair 'merched') noddwyd y gynghrair gan gwmni Genero - cwmni trefnu digwyddiadu a hyrwyddo. [16]

Darlledu Gem Fyw [ golygu | golygu cod ]

Ar brynhawn ddydd Sul 27 Medi 2020, darlledwyd y gem fyw gyntaf erioed o'r Gynghrair gan raglen Sgorio ar S4C . [17] C.P.D. Merched Dinas Abertawe bu'n fuddugol 0-3 dros C.P.D. Merched Dinas Caerdydd yng Nghaerdydd. [18] gyda Chloe Chivers yn 'Seren y Gem'. [19] Caiff uwchafbwyntiau gemau'r Uwch Gynghrair eu darlledu ar raglen Sgorio ar S4C . [20] Darllediad fyw gyntaf yr Genero Adran Premier ar ei newydd wedd oedd Met.Caerdydd yn erbyn CP.D.M. Dinas Abertawe a ddarlledwyd ar-lein ar Youtube a Facebook Sgorio . [21] Abertawe enillodd 1-2. [22]

Pencampwyr [ golygu | golygu cod ]

Yn y tri thymor cyntaf penderfynodd rownd derfynol rhwng enillwyr adran y gogledd a'r de pwy oedd y pencampwr. Noder felly nad oes gemau terfynnol wedi'r tair bencampwriaeth gyntaf gan i strwythur yr Uwch Gynghrair Genedlaethol ddod i fodolaeth.

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Dolenni [ golygu | golygu cod ]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1.   Ailstrwythuro sylweddol' i bel-droed merched yng Nghymru . BBC Cymru (16 Awst 2021).
  2. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/58209277?at_medium=custom7&at_custom1=%5Bpost+type%5D&at_custom4=BB2F7E76-FE7A-11EB-A247-38460EDC252D&at_custom3=%40BBCCymruFyw&at_custom2=twitter&at_campaign=64
  3. https://newyddion.s4c.cymru/article/3119
  4. "Welsh Premier Women's League 2018/19 Rules" (PDF) . Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-07-19 . Cyrchwyd 19 July 2019 .
  5. https://newyddion.s4c.cymru/article/3119
  6. https://www.adranleagues.cymru/
  7.   Adran Leagues: FAW announces new identity for women's football in Wales . BBC Cymru (16 Awst 2021).
  8. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/43484411
  9. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52663233
  10. https://twitter.com/theWPWL/status/1281545984414289921
  11. https://www.faw.cymru/en/news/launch-genero-adran-leagues-marks-new-era-domestic-football-wales/?back=/en/news/&pos=2
  12. "Women's Champions League entries confirmed" . UEFA.com (yn Saesneg) . Cyrchwyd 19 July 2019 .
  13. "copi archif" . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-04 . Cyrchwyd 2020-08-27 .
  14. http://atfc.org.uk/page.php?16 Archifwyd 2010-09-11 yn y Peiriant Wayback . ; Website of Aberystwyth Town Ladies
  15. https://www.wales247.co.uk/orchard-backs-welsh-premier-womens-league/
  16. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/58209277?at_medium=custom7&at_custom1=%5Bpost+type%5D&at_custom4=BB2F7E76-FE7A-11EB-A247-38460EDC252D&at_custom3=%40BBCCymruFyw&at_custom2=twitter&at_campaign=64
  17. https://twitter.com/sgorio/status/1310258976681078786
  18. https://twitter.com/sgorio/status/1310256519485763589
  19. https://twitter.com/sgorio/status/1310262357067792384
  20. https://sgorio.cymru/category/uwch-gynghrair-merched-cymru/
  21. https://www.youtube.com/watch?v=gZQz9u852Jo
  22. https://twitter.com/sgorio/status/1434566396302741507
  23. "Net draw hands Swansea Welsh title" . shekicks.net. 17 April 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-19 . Cyrchwyd 19 April 2017 .
  24. "#WPWL: Cardiff Met secure title for fifth time" . shekicks.net. 23 April 2018 . Cyrchwyd 26 April 2018 .
  25. https://int.women.soccerway.com/national/wales/welsh-premier-womens-league/20182019/regular-season/r47487/
  26. https://twitter.com/theWPWL/status/1263498702305583104
  27. "Swansea City Ladies seal third consecutive Genero Adran Premier title" . Swansea City . 9 Ebrill 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Apr 2022.
  28. "City secure the 2022/23 Adran Premier title" . Cardiff . 26 March 2023 . Cyrchwyd 7 Mai 2023 .
Eginyn erthygl sydd uchod am bel-droed . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .