Mae
Uttarakhand
(
Hindi
: ?????????), a adnabyddid fel
Uttaranchal
o 2000 hyd 2006, yn dalaith yn
India
. Uttarakhand oedd y 27ain o daleithiau India i ddod i fodolaeth, ar
9 Tachwedd
,
2000
, wedi ei ffurfio o diriogaethau oedd cynt yn rhan o
Uttar Pradesh
. Mae'n ffinio a
Tibet
yn y gogledd a
Nepal
yn y dwyrain, a hefyd a thaleithiau
Himachal Pradesh
yn y gorllewin ac Uttar Pradesh yn y de.
Prifddinas y dalaith ar hyn o bryd yw
Dehra Dun
. Mae'r boblogaeth frodorol yn ei galw eu hunain yn
Garhwali
/
Kumaoni
, ac mae dros 90% ohonynt yn ddilynwyr
Hindwaeth
. Roedd y boblogaeth yn 8,479,562 yn
2001
. Mae'r rhan ogleddol o'r dalaith yn rhan o'r
Himalaya
; y mynydd uchaf yw
Nanda Devi
(7816 m.).Yn Uttarakhand mae
Afon Ganga
ac
Afon Yamuna
yn tarddu, yn
Gangotri
a
Yamunotri
, sy'n gyrchfannau pererinion. Mae
Haridwar
hefyd yn gyrchfan boblogaidd. Ceir nifer o barciau cenedlaethol yma, yn cynnwys
Parc Cenedlaethol Jim Corbett
yn Ramnagar, yr hynaf o barciau cenedlaethol India.