Mudiad ieuenctid
Cymraeg
yw
Urdd Gobaith Cymru
a dros 56,000 o aelodau
[1]
rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Sefydlwyd yr Urdd yn 1922. Mae’r Urdd yn fudiad unigryw gyda’r nod I ‘sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg I holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n unigolion cyflawn; a’u galluogi I chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol’. Mae 4 miliwn o blant a phobl ifanc wedi bod yn rhan o’r Urdd.
Mae’r Urdd yn sicrhau bod darpariaeth sy’n addas i ddysgwyr Cymraeg yn ganolog i holl wasanaethau a chyfleoedd yr Urdd.
Mae
Urdd Gobaith Cymru
yn darparu cyfleoedd positif sydd yn ymestyn gorwelion pobl ifanc trwy:
- Canolfannau Preswyl
- Darpariaeth Chwaraeon
- Celfyddydau a diwylliant
- Gwaith Ieuenctid
- Prentisiaethau a Sgiliau
- Gweithgareddau Awyr Agored
- Gwirfoddoli
- Gweithgareddau Dyngarol
- Rhwydwaith o ddarpariaeth gymunedol
- Cyfleoedd Rhyngwladol
- Cyhoeddiadau
Cafodd
Urdd Gobaith Cymru
ei sefydlu yn 1922, ac mae wedi datblygu yn barhaus ers hynny. Yn rhifyn mis Ionawr 1922 o ‘Cymru’r Plant’ meddai Syr
Ifan ab Owen Edwards
, ?
Yn awr mewn llawer pentref, a bron ym mhob tref yng Nghymru, mae’r plant yn chwarae yn Saesneg, yn darllen llyfrau Saesneg, ac yn anghofio mai Cymry ydynt”.
Apeliodd ar blant
Cymru
i ymuno a mudiad newydd i gynnig cyfleoedd trwy’r Gymraeg, ac o ganlyniad i hynny, sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru.
Crewyd Logo yr Urdd y 1922.
Ar drothwy ei chanmlwyddiant mae gan yr Urdd uchelgais i sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn cael mynediad at ddarpariaeth a phrofiadau i ddefnyddio’r Gymraeg mewn awyrgylch gadarnhaol a chymdeithasol.
Cynllun Corfforaethol Urdd Gobaith Cymru 2019-2022
· 56,000 o aelodau
· 10,000 o wirfoddolwyr
· 308 staff
· 100,000 yn cystadlu yng nghystadlaethau chwaraeon
· 47, 000 yn mynychu’r gwersylloedd
· 70,000 yn cystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd
· 60% o holl ysgolion Cymru yn ymwneud a’r Urdd
·
Cynhyrchu gwerth economaidd o £31miliwn i Gymru
Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru yw Sian Lewis.
Mae’r Urdd yn cynnig profiadau preswyl mewn 5 canolfan preswyl, pob un ohonynt ag arbenigedd penodol:
- Gwersyll Llangrannog,
Llangrannog
, Ceredigion a gweithgareddau hamddena,
- Gwersyll Glan-llyn,
Y Bala
, Gwynedd yn darparu antur awyr agored;
- Gwersyll Caerdydd a phrofiadau dinesig ym Mae Caerdydd;
- Pentre Ifan, Sir Benfro yn datblygu arbenigedd amgylcheddol a lles;
- T? Kisbodak Haz yn
Hwngari
sy'n cynnig profiadau rhyngwladol i bobl ifanc Cymru.
Mae dros 47,000 o breswylwyr yn ymweld a Gwersylloedd yr Urdd yn flynyddol
[1]
.
Nod y Gwersylloedd yw creu canolfannau sy'n cynnig cyfleoedd i blant, ieuenctid ac oedolion breswylio, addysgu a chymdeithasu mewn awyrgylch Cymraeg a Chymreig, diogel a chroesawgar.
Sefydlwyd 'Gronfa Cyfle i Bawb' sydd yn cynnig ariannu cyfnod ar wersyll haf i blant a phobl ifanc sy'n dod o gefndir incwm isel.
Mae
adran chwaraeon
yr Urdd yn darparu cyfleodd ar draws Cymru i bob plentyn wirioni ar chwaraeon trwy raglen o wyliau a chystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Cefnogir hyn gan rwydwaith eang o glybiau chwaraeon lleol a rhaglen cymhwyso arweinwyr chwaraeon ifanc. Yn 2019 roedd 45,000 o bobl ifanc wedi cystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae'r Adran Chwaraeon, gyda chefnogaeth
Chwaraeon Cymru
, bellach yn cyflogi 20 o staff ac yn hyfforddi dros 1,000 o wirfoddolwyr yn flynyddol. Mae hyn wedi trawsnewid gallu’r mudiad i gynnig gweithgareddau cyson i blant a phobl ifanc, gyda 150 o glybiau chwaraeon yn cael eu cynnal yn wythnosol ar draws y wlad, a thros 15,000 o blant yn mynychu.
[4]
Mae’r Urdd yn cydweithio gyda’r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol (NGOs) a darparwyr e.e. URC. Swim Wales, Gymnastics Cymru.
Mae'r Urdd hefyd yn brif drefnwyr cystadlaethau blynyddol
Gemau Cymru
sydd ar gyfer
athletau
,
gymnasteg
a rhai campau eraill fel
tenis bwrdd
. Cynhelir y cystadlaethau yng Nghaerdydd ac yn
Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn
.
[2]
Mae
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
, un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop sy'n denu tua 90,000 o ymwelwyr ar draws chwe diwrnod yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos y
Sulgwyn
. G?yl gystadleuol yw’r Eisteddfod yn cynnwys cystadlaethau megis canu, dawnsio a pherfformio, celf, dawns, offerynnol, llenyddol.
Cynhelir Eisteddfodau Cylcha Sir ar draws Cymru yn ystof misoedd y gwanwyn gyda’r enillwyr yn cyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Eisteddfod yn cael ei darlledu ar y teledu gan S4C http://s4c.urdd.cymru/cy/.
Cynhaliwyd Eisteddfod 2019 ym
Mae Caerdydd
. Yn 2020, fe gynhelir yn
Nimbych
ac yn 2021 fe gynhelir yn
Llanymddyfri
,
Sir Gaerfyrddin
.
Cwmni theatr deithiol yw
Cwmni Theatr Urdd Gobaith Cymru
sydd yn rhoi cyfleoedd ar y llwyfan a chefn llwyfan i bobl ifanc i fwynhau ac ymestyn eu profiadau celfyddydol. ?Aberhenfelin” oedd cynhyrchiad 2019 a sgriptwyd gan 3 enillydd cenedlaethol diweddar ym maes theatr a sgriptio.
Mae gan Urdd Gobaith Cymru gweithlu cymwys o weithwyr ieuenctid, yn unol ag anghenion phobl ifanc yn darparu mynediad agored at ddarpariaeth sydd yn grymuso pobl ifanc wrth iddynt bontio o addysg ffurfiol i’r gweithlu.
Ar y cyd gyda rhwydwaith o lysgenhadon, fforymau ieuenctid rhanbarthol a’r fforwm Ieuenctid cenedlaethol (Bwrdd Syr IfanC) mae pobl ifanc yn medru mynegi eu barn ar faterion sydd y eu heffeithio nhw.
Mae gwaith ieuenctid Urdd Gobaith Cymru yn sicrhau, trwy gyfrwng y Gymraeg, bod pobl ifanc yn ffynnu gyda chefnogaeth eu cyfoedion a gweithwyr ieuenctid.
Ers 2014, mae Urdd Gobaith Cymru wedi darparu
cynllun Prentisiaethau cyfrwng Cymraeg
i bobl ifanc yng Nghymru. Mae’r llwybrau galwedigaethol yn cynnwys gwasanaethau awyr agored, chwaraeon a gwaith ieuenctid. Nod cynllun prentisiaethau'r Urdd yw creu gweithlu ifanc, hyderus a dwyieithog yn, er mwyn sicrhau bod oedolion ifanc yn dysgu, datblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol ac yn magu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’r cynllun prentisiaeth ar gael i sefydliadau tu allan i’r Urdd sut am ddatblygu gweithlu cyfrwng Cymraeg. Yr Urdd yw’r darparydd 3ydd sector fwyaf ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg gyda nod i gyrraedd 100 o brentisiaid erbyn 2022.
Gweithgareddau awyr agored
[
golygu
|
golygu cod
]
Mae'r Gwasanaeth Awyr Agored yn cynnig gweithgareddau anturus i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Cynllunnir y gweithgareddau yn unol ag anghenion y gr?p ac ynghyd a chymwysterau a hyfforddiant awyr agored. Dyma un o’r gwasanaethau sydd yn datblygu’n gyflym ac yn boblogaidd iawn gyda phobl ifanc 15oed+. Urdd Gobaith Cymru yw darparydd mwyaf o alldeithiau Gwobr Dug Caeredin (DOFE) yn y Gymraeg yng Nghymru.
Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael yn yr Urdd a thrwy ei phartneriaid allanol. Gall pobl ifanc ac oedolion gwirfoddoli trwy arwain adrannau ac aelwydydd, clybiau chwaraeon, ymweliadau a theithiau preswyl rhyngwladol, swyddogaethau amrywiol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a thrwy fod yn SWOG yn un o ganolfannau preswyl yr Urdd. Yn flynyddol mae 10,000 o bobl ifanc ac oedolion yn gwirfoddoli i’r Urdd.
Gwaith dyngarol a Neges Heddwch ac Ewyllys Da
[
golygu
|
golygu cod
]
Pob blwyddyn ers 1922, mae plant a phobl ifanc Cymru wedi ysgrifennu a rhannu
Neges Heddwch ac Ewyllys da
at blant a phobl ifanc y byd, a hynny ar Ddydd Ewyllys Da, sef Mai 18. Nod y neges yw lleihau rhagfarn ac anwybodaeth gan bwysleisio'r hyn sy’n gyffredin i holl blant y byd.
Datblygir y neges hyd heddiw fel ymateb i ddigwyddiadau cyfoes, a thros y blynyddoedd derbyniwyd sawl ymateb o wledydd eraill. Mae'r broses o ysgrifennu ac anfon neges ar ran pobl ifanc Cymru i bobl ifanc ar draws y byd wedi ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol.
Mae
gweithgareddau dyngarol
y mudiad yn cynnwys, cefnogi ymgyrch i ddileu digartrefedd ymysg yr ifanc, cefnogi ymgyrchoedd a rhaglenni iechyd meddwl pobl ifanc a chodi arian i achosion lleol e.e. banciau bwyd lleol ac ysbytai.
Rhwydwaith o ddarpariaeth gymunedol
[
golygu
|
golygu cod
]
Trwy rwydwaith o 10,000 o wirfoddolwyr ymroddedig a 1,000 o glybiau, mae pobl ifanc Cymru yn medru mynychu gweithgareddau o fewn eu cymunedau. Mae gwirfoddolwyr a phobl ifanc yn arwain Adrannau (clybiau 8-11 oed) ac aelwydydd (11-25 oed).
Ers sefydlu'r Urdd rhoddwyd pwyslais ar gyfleoedd rhyngwladol, gan feithrin gwerthoedd byd eang y parchir yng Nghymru. Mae pobl ifanc yn cael y cyfle i lysgenhadu ar ran Cymru a’r Gymraeg. Ar drothwy ei chanmlwyddiant, mae ‘r Urdd wedi adfywio ac ehangu’r cynnig rhyngwladol i bobl ifanc. Fel rhan o strategaeth ryngwladol newydd yr Urdd, sefydlir partneriaethau newydd i greu cyfleodd mwy amrywiol. Heddiw (2019) mae pobl ifanc yn cael y cyfle i wirfoddoli ac ymweld a Alabama USA, Kenya. Sydney Awstralia, Cameroon, Hong Kong and Shanghai, Patagonia and Hwngari.
Gwnaeth yr Urdd cydweithio gyda
TG Lurgan
yn 2020-21 i ryddhau dehongliad o "Blinding Lights" gan The Weeknd, ‘Golau’n Dallu / Dallta ag na Solise’. Dyma'r tro cyntaf i gan gael ei wneud yn yr iaith Wyddeleg a'r iaith Gymraeg ar y cyd. Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, “Waeth beth fo’r hinsawdd wleidyddol a sefyllfa Cymru y tu allan i Ewrop, fel sefydliad rydym ni’n awyddus i sicrhau fod ein pobl ifanc yn parhau i fwynhau profiadau unigryw fel hyn gyda chymheiriaid ledled y byd.”
[3]
Cynhyrchir 3 cylchgrawn i bant a phobl ifanc:
- Bore Da
? cylchgrawn lliwgar a chyffrous i ddysgwyr a siaradwyr ail-iaith oed cynradd;
- CIP
? cylchgrawn bywiog Cymraeg i blant 7-10 oed gyda chynnwys digidol ac mewn print gyda 5 rhifyn y flwyddyn;
- IAW
? cylchgrawn cyfoes a lliwgar ar gyfer dysgwyr oedran uwchradd; mae'n llawn erthyglau difyr, gweithlenni addysgiadol a chynnwys diddorol ac atyniadol i bobl ifanc sy'n dysgu'r iaith.
Mistar Urdd
(Mr Urdd) yw masgot yr Urdd, wedi seilio ar logo a bathodyn Urdd Gobaith Cymru, mae yn boblogaidd gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion. Mae gan Mistar Urdd ei gan ei hun sef ?Hei Mistar Urdd“.