한국   대만   중국   일본 
Unedau imperial - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Unedau imperial

Oddi ar Wicipedia
Unedau imperial
Enghraifft o'r canlynol System fesur   Edit this on Wikidata
Rhan o Imperial and US customary measurement systems  Edit this on Wikidata
Yn cynnwys troedfedd   Edit this on Wikidata
Rhagflaenydd English unit of measurement  Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Casgliad o unedau a ddiffiniwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Pwysau a Mesurau Lloegr o 1824 yw'r system o unedau imperial . Cyflwynwyd yr unedau yn y Deyrnas Unedig a'i threfedigaethau, gan gynnwys gwledydd y Gymanwlad (er bod y rhan fwyaf o'r wledydd hyn yn fetrig yn swyddogol), ond nid yn yr Unol Daleithiau , a oedd eisoes yn annibynnol bryd hynny.

Mesurau hyd [ golygu | golygu cod ]

Ar ol 1 Gorffennaf 1959 , fe ddiffiniwyd llath yr Unol Daleithiau a’r llath Brydeinig yn unfath (0.9144m) fel y llath ryngwladol .

Uned Gwerth cymharol i’r llath Gwerth metrig
Modfedd (in) 1/36 2.54 cm
Troedfedd (ft) 1/3 30.48 cm
Llath 1 91.44 cm
Cadwyn 22 ~20.12 m
Ystaden 220 ~201.2 m
Milltir (m) 1760 ~1609 m
Cynghrair 5280 ~4828 m

Mesurau arwynebedd [ golygu | golygu cod ]

1 erw = 1 ystaden × 1 gadwyn = 1/640 o filltir sgwar = 43,560 o droedfeddi sgwar = ~0.4047 ha ( hectarau ) = ~4047 m²

Mesurau cyfaint [ golygu | golygu cod ]

Yn 1824 , mabwysiadodd Prydain y galwyn imperial, a fu'n seiliedig ar gyfaint 10 lb o dd?r distylledig wedi'i bwyso mewn awyr a phwysau pres, a'r baromedr yn sefyll wrth 30 inHg (modfeddi o fercwri ) a thymheredd o 62 °F. Newidiodd Deddf Pwysau a Mesurau o 1985 ddiffiniad galwyn i 4.54609L yn union.

Uned Gwerth cymharol i'r peint Gwerth metrig
Owns hylif (fl oz) 1/20 ~28.41 ml
Gil 1/4 ~142.1 ml
Peint (pt) 1 ~568.2 ml
Chwart 2 ~1.136 L
Galwyn (gal) 8 4.54609 L (yn union)

Mesurau pwysau a mas [ golygu | golygu cod ]

Uned Gwerth cymharol i'r pwys Gwerth metrig
Drachm 1/256 ~1.771 g
Owns (oz) 1/16 ~28.35 g
Pwys (lb) 1 453.59237 g (yn union)
Ston 14 ~6.35 kg
Chwarter 28 ~12.7 kg
Canpwys (cwt) 112 ~50.8 kg
Tunnell (t) 2240 ~1016 kg

Sylwer bod y dunnell Brydeinig yn hafal i 2240 o bwysi ("y dunnell hir"), sy'n agos iawn i'r dunnell fetrig, er bod y dunnell a ddefnyddir yn gyffredinol yn yr Unol Daleithiau yn hafal i 2200 o bwysi ("y dunnell fer", sef 907.184 74 kg).

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]