한국   대만   중국   일본 
Uned Svedberg - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Uned Svedberg

Oddi ar Wicipedia

Uned cemeg ffisegol i ddisgrifio cyflymder (buanedd) ( dx/dt ) gwaddodi gronyn mewn hylif yn ol y grym disgyrchiant sydd arno [1] yw Uned Svedberg . Fel rheol gwneir mesuriadau o'r math mewn allgyrchydd.

(ω = cyflymder tro; r = pellter o echel troi'r allgyrchydd)

Yn 1929 dyfeisiodd Theodor Svedberg [2] hafaliad i gysylltu hwn a mas moleciwlar molecylau a gronynnau

( D = cyfernod trylediad, = cyfaint rhannol sbesiffig y gronyn , ρ = dwysedd yr hylif)

Ar ol hynny, defnyddir yr uned ei hun fel disgrifiad o'r gronyn. Gan fod gwerth y cysonyn gwaddodi ( s ) (mewn eiliadau) yn rhif mor fychan, defnyddir y gwerth wedi'i lluosogi a 10 13 , a diffinio hwn yn Uned Svedberg (S). Felly 1S = 10 ?13 eiliad

Oherwydd effeithiau ffrithiant, nid yw unedau Svedberg yn fesur union o faint fel y cyfryw gan fod siap, hefyd, yn ddylanwad arno. Bellach mae ffyrdd amgenach i fesur M r (e.e. cromatograffi gel) ond erys yr uned yn ddefnyddiol fel label disgrifiadol. Er enghraifft, i nifer o ronynnau a macro-folecylau biocemeg - megis RNA a phroteinau .

Enghreifftiau o werthodd S rhai gronynnau biolegol [1]
S M r (Da)
Myoglobin (ceffyl) 2.04 16,900 0.741
Hemoglobin (dyn) 4.48 63,000 0.749
Lysosym (melynwy) 1.9 16,400 (0.75)
Tocsin Botulinus A 17.3 810,000 0.755
Firws Mosaic Tobaco 185 31.4 x 10 6 0.73
Is-uned bach ribosom

Procaryot

30

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]