Athrawiaeth
Gristnogol
Brotestannaidd
yw
Undodiaeth
neu
Sosiniaeth
: gelwir y rhai sy'n ei harddel yn
Undodiaid
. Ceir sawl enwad neu
eglwys
Undodaidd, yn bennaf yng ngwledydd
Prydain
a'r
Unol Daleithiau
, ond roedd llawer o'r Undodiaid cynnar heb berthyn i enwad Undodaidd ond yn hytrach yn arddel y ddysgeidiaeth, neu rannau ohoni. Gelwir Undodiaeth yn
Sosiniaeth
weithiau am fod y diwinydd Sosin (Socinus, 1525-1562) wedi gosod sylfeini Undodiaeth.
Nid yw'r Undodiaid yn credu yn y Drindod sanctaidd sef y
Tad
,
Y Mab
a'r Ysbryd Glan (athrawiaeth a geir yn
Ariaeth
hefyd). Yn hytrach credant mai dyn da oedd
Iesu Grist
, gan wrthod credu yn ei dduwdod. Credant yn ogystal nad oes pechod gwreiddiol ac mae rheswm dyn yn unig sydd i esbonio'r
Beibl
.
Mae credoau ynghylch Crist wedi newid o amser John Biddle, at amser Joseph Priestley.
Yng Nghymru, roedd yr Undodiaid yn gryf yn ardal
Llanbedr Pont Steffan
a
Llandysul
yn ardal Dyffryn Teifi yng
Ngheredigion
ac o ganlyniad fe alwyd yr ardal yn 'Sbotyn Du'. Er bychaned eu nifer, cawsant ddylanwad sylweddol ar wleidyddiaeth a diwylliant y wlad ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19g.
Mae
Christadelphianiaid
heddiw dal i ddilyn syniadau o Socinus yngl?n a Christ.