Ulas Samchuk

Oddi ar Wicipedia
Ulas Samchuk
Ganwyd 20 Chwefror 1905  Edit this on Wikidata
Derman  Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Gorffennaf 1987  Edit this on Wikidata
Toronto   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Awstria-Hwngari , Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl, First Czechoslovak Republic, yr Almaen Natsiaidd , Canada   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Wrocław  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth newyddiadurwr, ysgrifennwr , gohebydd gyda'i farn annibynnol  Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Organization of Ukrainian Nationalists  Edit this on Wikidata

Llenor a newyddiadurwr Wcreinaidd a ymfudodd i Ganada oedd Ulas Samchuk ( 20 Chwefror 1905 ? 9 Gorffennaf 1987 ). [1] Roedd yn un o lenorion trydydd cyfnod llenyddiaeth Wcreineg Canada .

Ganwyd yn Derman, Ostrih, yn nhalaith Volhynia , Ymerodraeth Rwsia . Astudiodd ym Mhrifysgol Breslau ac yn y Brifysgol Rydd Wcreinaidd ym Mhrag . Dechreuodd ar ei yrfa lenyddol yn 1926 pan gyhoeddwyd ei straeon byrion yn y cylchgronau Dukhovna besida a Literaturno-naukovyi vistnyk , a chawsant eu hailgyhoeddi'n ddiweddarach yn y casgliad Vidnaidenyi rai (1936). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd golygodd y papur newydd Volyn’ (1941?3) yn ninas Rivne , a fe wnaeth ffoi i'r Almaen yn 1944.

Ymhlith ei nofelau realaidd cynnar mae'r triawd Volyn’ (1932, 1935, 1937), y nofelig Kulak (1932), Hory hovoriat’ (1934), Mariia (1934), ac Iunist’ Vasylia Sheremety (1946, 1947). Ymfudodd Samchuk i Ganada yn niwedd y 1940au, ac yno cyhoeddodd rhagor o waith yn yr iaith Wcreineg, gan gynnwys y triawd Ost (1948, 1957, 1982), Choho ne hoit’ vohon’ (1959), Na tverdii zemli (1967), a Slidamy pioneriv: Epos ukrains’koi Ameryky (1979). Ysgrifennodd hefyd sawl hunangofiant : Piat’ po dvanadtsiatii (1954), Na bilomu koni (1965), Na koni voronomu (1975), a Planeta Di-Pi (1979).

Bu farw yn Toronto yn 82 oed. Sefydlwyd archif a amgueddfa ar gyfer ei waith yn y ddinas honno yn 1988.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. (Saesneg) " Samchuk, Ulas ", Internet Encyclopedia of Ukraine . Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2018.